Deiseb a gwblhawyd Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023

Mae corsydd a rhostiroedd mawn yn eithriadol o bwysig yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd; gan ddal a storio carbon yn well na llawer o dirweddau naturiol, lleihau llifogydd a darparu bioamrywiaeth. Mae angen i ni wahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023, gan gynnwys mewnforion.

Rhagor o fanylion

Ar hyn o bryd, mawn yw 40% o'r deunydd tyfu a ddefnyddir gan y cyhoedd, a mwy na 60% o’r hyn a ddefnyddir yn y sector proffesiynol. Mae yna ddeunyddiau eraill y gellir eu defnyddio, fel rhisgl coconyt, pren wedi'i gompostio a llwydni dail. Yn hytrach na chloddio mawndiroedd, dylid eu diogelu a'u hadfer.

Dylai'r Senedd ddiogelu ac adfer holl gorsydd a rhostiroedd mawn Cymru ac, yn hollbwysig, sicrhau nad oes unrhyw fawn yn yr holl ddeunydd tyfu sy'n cael ei werthu a'i ddefnyddio yng Nghymru.

• 3 miliwn metr ciwbig o fawn yn cael eu gwerthu at ddefnydd garddwriaethol bob blwyddyn yn y DU, gyda ⅓ o fawndiroedd yn y DU (IUCN http://bit.ly/peat-extraction-horticulture)
• 20 miliwn tunnell o garbon deuocsid yn cael eu colli i'r atmosffer bob blwyddyn o fawndiroedd sydd wedi'u difrodi yn y DU (IUCN http://bit.ly/peat-climate)
• Dinistr y mawndiroedd yn rhyddhau symiau enfawr o CO2 (New Scientist http://bit.ly/peatland-destruction)
• Mae mawndiroedd yn cefnogi llawer o rywogaethau ac ecosystemau unigryw (IUCN http://bit.ly/peat-species)

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,014 llofnod

Dangos ar fap

10,000