Deiseb a gwblhawyd Gwasanaeth sgrinio’r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon

Mae 12 o bobl o dan 35 oed yn marw’n sydyn bob wythnos yn y DU o gyflwr ar y galon a fyddai’n dod i’r amlwg wrth sgrinio’r galon. Nid yw 80 y cant o'r marwolaethau hyn yn dangos unrhyw symptomau blaenorol.
Mae cyfradd oroesi o 7 y cant ar gyfer ataliad y galon. Ers gwneud sgrinio’r galon yn orfodol yn yr Eidal i bob chwaraewr mewn timau chwaraeon, mae marwolaeth sydyn y galon wedi gostwng 89 y cant.
Bu farw Owen Morris, 13, yn sydyn yn ystod hyfforddiant rygbi yng Nghaerdydd o gyflwr ar ei galon heb ei ddiagnosio, a allai fod wedi dod i’r amlwg wrth sgrinio.

Rhagor o fanylion

Wrth sgrinio calonnau, mae un o bob 300 sesiwn yn dod o hyd i broblem a allai fygwth bywyd yr unigolyn, ac y gellir ei reoli neu ei drin wedyn.
Stori Owen Morris: https://www.walesonline.co.uk/news/local-news/friends-family-welsh-schoolboy-who-7361218
Cafodd Chris Morse, 33, ei anfon i'r ysbyty ar unwaith ar ôl bod mewn gwasanaeth sgrinio’r galon: "Bydd yn cymryd ychydig funudau ac yn ddi-os gallai arbed eich bywyd, fel yn fy achos i." Dyma stori Chris: https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-50635370
Bu farw Ben McDonald, 25, ar ôl cael ataliad y galon yn Hanner Marathon Caerdydd. Mae mam Ben, Ruth McDonald, eisiau i bobl yng Nghymru gael mynediad at wasanaeth sgrinio’r galon am ddim i helpu i atal achosion o farwolaeth sydyn y galon.
Yma yn Calon Heart Screening Wales mae'n rhaid i ni godi ffi am wasanaeth sgrinio’r galon. Fodd bynnag, rydym am gael cyllid gan y llywodraeth i allu cynnig gwasanaeth sgrinio’r galon am ddim i'r rheini rhwng 11 a 35 oed sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ar gyfer eu hysgol, eu sir neu eu gwlad. Cewch ragor o wybodaeth am ein helusen yma: www.heartscreening.wales

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

3,092 llofnod

Dangos ar fap

10,000