Deiseb a gwblhawyd Ni ddylid cyfyngu ffordd newydd Blaenau’r Cymoedd i 50 mya.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £336m i wella ffordd Blaenau’r Cymoedd, a oedd yn arfer bod wedi’i chyfyngu i 50mya. Os caiff y ffordd newydd ei chyfyngu i 50mya, bydd y £336m wedi cael ei wastraffu’n llwyr.

Rhagor o fanylion

Mae’r gwaith ar y ffordd wedi rhedeg drosodd o ran amser a chostau, gyda defnyddwyr rheolaidd yn wynebu blynyddoedd o oedi a therfyn o 40mya. Bydd terfyn cyflymder o 50mya yn chwalu’r addewid o gyflymu amser teithio. Fel ffordd newydd, bydd y prosiect wedi’i gynllunio gyda gwelededd da a’r mesurau diogelwch diweddaraf. Nid oes cyfiawnhad dros derfyn o 50mya.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

271 llofnod

Dangos ar fap

10,000