Deiseb a wrthodwyd Dechrau ymchwiliad cyhoeddus i Wasanaethau Brys Aneurin Bevan

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cau’r holl adrannau Damweiniau ac Achosion brys mawr gan agor unedau mân anafiadau yn eu lle. Mae hyn yn golygu mai Ysbyty Athrofaol y Faenor yw’r unig adran Damweiniau ac Achosion Brys mawr sy’n gwasanaethu holl ardal Aneurin Bevan bellach. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i bobl ag anafiadau difrifol deithio’n bellach i gael triniaeth.

Rhagor o fanylion

Mae’r adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a ganlyn wedi cau neu wedi lleihau i wasanaeth mân anafiadau yn unig:
Uned Mân Anafiadau Caerffili
Ysbyty Brenhinol Gwent
Ysbyty Nevill Hall

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi