Deiseb a gwblhawyd Dylid newid y Rheolau Sefydlog a’r meini prawf ar gyfer derbyn deisebau.

Ar hyn o bryd, mae deisebau sy'n ymwneud â phenderfyniadau gweithredol awdurdodau lleol yn cael eu gwrthod yn awtomatig gan y Pwyllgor Deisebau yn unol â’r Rheolau Sefydlog. Ar draws Cymru, mae awdurdodau lleol yn diystyru datganiadau Cynulliad Cymru, megis am yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur ac yn gwneud penderfyniadau sy'n mynd yn uniongyrchol groes i ddatganiadau o'r fath. Mae llawer o ffermydd yn cael eu colli tra bo cynghorau'n ceisio gwneud y gorau o’u refeniw drwy ganiatáu gwaith adeiladu ychwanegol ar dir llain las.

Rhagor o fanylion

Ym mis Chwefror 2016, cynhaliodd y Pwyllgor Deisebau ymarfer ymgynghori â’r cyhoedd ac adolygiad o drefniadau deisebau cyhoeddus. O dan eitem 17, cadarnhawyd bod 57 y cant o'r cyhoedd o blaid caniatáu deisebau am benderfyniadau gweithredol awdurdodau lleol ac roedd yr ymatebion gan ddeisebwyr yn gymysg. O dan eitem 21, nodwyd y canlynol:
“Er gwaethaf yr ymatebion i'r arolwg ar-lein, ymddengys nad oedd cytundeb dros newid yn y maes hwn a rhesymau da dros beidio ag ymyrryd yn y broses leol o wneud penderfyniadau.”
Mae hyn yn gwrthod hawl i'r cyhoedd ddefnyddio’r llwybr cywir i herio penderfyniadau awdurdodau lleol yn gywir sy'n mynd yn groes i'r nodau a'r ymrwymiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud. Noda Polisi Cynllunio Cymru y canlynol:
"Mae gan Weinidogion Cymru bwerau wrth gefn i wneud eu Gorchmynion Dirymu/Addasu neu Ddirwyn i Ben eu hunain, ond dim ond ar ôl ymgynghori â’r awdurdod cynllunio."
Sut y gall y cyhoedd ofyn am hyn pan wrthodir deisebau’n awtomatig?

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

116 llofnod

Dangos ar fap

10,000