Deiseb a gwblhawyd Dylid adolygu'r broses o ran statws ardaloedd wedi’u rhag-asesu ar gyfer tyrbinau ar y tir, sy’n rhoi unigolion dan anfantais annheg.

Mae'r system bresennol yn ffafrio datblygwyr sydd â mynediad at arbenigedd cyfreithiol, arbenigedd cynllunio ac arbenigedd ariannol yn annheg. Nid oes gan unigolion / cymunedau y gefnogaeth na'r adnoddau i gyfateb i hynny. Gall penderfyniadau ynghylch tyrbinau ynni gwynt ddinistrio bywoliaethau a chymunedau. Rhaid i'r broses newid, i sicrhau bod pawb yr effeithir arnynt, o bosibl, yn cael gwybod ar ddechrau unrhyw drafodaethau, ac yn cael cyngor cynllunio proffesiynol a chyngor cyfreithiol am ddim a chefnogaeth i allu dylanwadu ar benderfyniadau.

Rhagor o fanylion

Rydyn ni'n teimlo ein bod ni'n cael ein bwlio a'n dychryn. Deallwn fod datblygwyr eisoes wedi bod yn trafod â pherchnogion tir ers misoedd i ddweud eu bod yn bwriadu gosod tyrbinau gwynt 250 metr o uchder 700 metr o'n drws ni. Nid oeddem wedi cael gwybod am hyn ac rydym wedi clywed am y mater drwy gymydog y gofynnwyd iddo lofnodi cytundeb sŵn.
Nid oedd y Cynghorau Cymuned, cynghorwyr sir na gwleidyddion rhanbarthol yr ydym wedi cysylltu â hwy, yn ymwybodol o'r statws ardal wedi’i rhag-asesu a roddwyd i'r ardal hon, a oedd felly'n paratoi'r ffordd i osod tyrbinau. Mae’r broses gynllunio mewn perthynas ag 'Ardaloedd wedi’u rhag-asesu ar gyfer ynni’r gwynt' a ddangosir yn y ddogfen Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040, wedi dileu gwneud penderfyniadau’n lleol o'r broses gynllunio, gan felly golli dealltwriaeth bwysig o'r tirwedd a’r economi, ac o’r effaith ddiwylliannol, yr effaith ieithyddol a’r effaith bersonol ar gymuned leol. Byddai ein bywoliaeth ni, sef busnes glampio yr ydym wedi gweithio'n galed i'w ddatblygu dros ddwy genhedlaeth yn cael ei ddifrodi, ac mae hyn eisoes yn effeithio'n negyddol ar ein llesiant ni fel teulu.

Hen Dro Sal - Chwarae Teg

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

515 llofnod

Dangos ar fap

10,000