Deiseb a gaewyd Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru

Mae nifer y bobl sy'n rhentu'n breifat yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn - ar hyn o bryd mae llawer yn cael eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid anwes oherwydd cymalau yn eu cytundebau tenantiaeth.
Ni ddylai’r manteision o berchen ar anifeiliaid anwes gael eu cyfyngu i bobl sy’n berchen ar dŷ. Dylai'r rhai sy'n rhentu gael yr un hawl i gadw anifail anwes â pherchnogion tai.

Rhagor o fanylion

Yn ôl Dogs Trust, y prif reswm dros roi cŵn mewn canolfannau ailgartrefu yw oherwydd newid mewn amgylchiadau, fel methu byw mewn eiddo rhent gydag anifail anwes. Mae'r cymalau hyn hefyd yn atal nifer fawr o bobl rhag gwirfoddoli i ailgartrefu anifeiliaid anwes; maent yn cael eu gwahardd rhag gwneud hynny i bob pwrpas o ganlyniad i’w statws fel tenant. Mae hyn yn golygu bod anifeiliaid anwes yn dioddef yn ogystal â thenantiaid.
Ym mis Ionawr 2021, cyflwynodd Llywodraeth y DU Gytundeb Tenantiaeth Enghreifftiol newydd a oedd yn gwahardd landlordiaid rhag cyflwyno gwaharddiadau cyffredinol ar anifeiliaid anwes. Caniatâd ar gyfer anifeiliaid anwes yw'r safbwynt arferol erbyn hyn. Yng Nghymru, nid yw hyn wedi’i gynnwys, ac felly mae tenantiaid Cymru yn llai tebygol o allu cadw anifail anwes na thenantiaid eraill yn y DU.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

857 llofnod

Dangos ar fap

10,000