Deiseb a gwblhawyd Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Mae nyrsys ledled Cymru yn brin o 1,719 o aelodau staff medrus iawn sy'n achub bywydau. Mae hyn yn golygu bod staff nyrsio yn rhoi 34,284 o oriau ychwanegol i GIG Cymru bob wythnos – ac nid yw'n ddigon o hyd. Mae ymchwil yn dangos, os oes llai o nyrsys, mae cleifion 26 y cant yn fwy tebygol o farw, ac, yn gyffredinol, mae hyn yn codi i 29 y cant yn dilyn cyfnodau cymhleth o aros yn yr ysbyty. Dylai Llywodraeth Cymru ehangu Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i ddarparu’r tîm llawn o nyrsys sydd eu hangen yn daer ar y cyhoedd yng Nghymru.

Rhagor o fanylion

Mae adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru gymryd pob cam rhesymol i gynnal lefel benodedig o staff nyrsio. Lefelau staff nyrsio yw nifer y nyrsys, a’u cymysgedd sgiliau, sydd eu hangen i ddarparu gofal sensitif i gleifion. At hynny, rhaid i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau roi gwybod i’r cyhoedd am y lefelau staff nyrsio ar unrhyw ward sy’n cael ei gynnwys o dan Adran 25B.
Pan basiwyd y gyfraith am y tro cyntaf, roedd Adran 25B yn berthnasol i wardiau oedolion meddygol a llawfeddygol acíwt yn unig. Ar 1 Hydref 2021, cafodd hyn ei ymestyn i wardiau plant. Rydym am iddo fod yn berthnasol ym mhob lleoliad lle darperir gofal nyrsio, gan ddechrau gyda wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl a nyrsio cymunedol.
Dilynwch ein hymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a chymerwch ran #ForTheFullTeam.
Gwefan: https://forthefullteam.com
Twitter: https://twitter.com/RCNWales
Facebook: https://www.facebook.com/RCNWales

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

10,572 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 28 Medi 2022

Gwyliwch y ddeiseb ‘Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Medi 2022.