Deiseb a gwblhawyd Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr

Yn dilyn misoedd o drafodaethau cadarnhaol, tynnodd y Llywodraeth allan o'r cynllun i adeiladu ffordd osgoi Llanbedr, Gwynedd, yn seiliedig ar wybodaeth ddiffygiol eu hadroddiad.
Nid yn unig bydd atal y ffordd osgoi yn andwyol i'r amgylchedd wrth i gannoedd o geir barhau i giwio yn y pentref ond mae'r penderfyniad hefyd yn ergyd anferth i unrhyw obeithion o ddatblygu swyddi safon uchel ar y maes awyr - sef prif obaith yr ardal yma o Feirionnydd o ran rhoi gwaith da i'n pobl leol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,704 llofnod

Dangos ar fap

10,000