Deiseb a gwblhawyd Cyflwyno gwersi ar fagu plant a sgiliau bywyd sylfaenol ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd

Mae pwysau cynyddol oherwydd y pandemig wedi arwain at gynnydd mewn achosion o gam-drin plant. Yn 2020/21, cafodd dros 24.8 mil o droseddau cam-drin plant eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, sy’n gynnydd o 2.9 mil o droseddau o gymharu â’r flwyddyn adrodd flaenorol.
Un ffordd o gefnogi cenedlaethau’r dyfodol pan fyddant yn dod yn rhieni yw drwy gwricwlwm sy’n cynnig gwersi ar gyfrifoldebau rhieni, gofalu am y cartref, rheoli arian, cymorth cyntaf sylfaenol, iechyd corfforol ac iechyd meddwl a pharatoi prydau o fwyd maethlon ar gyllidebau tyn.

Rhagor o fanylion

Mae angen i’r Llywodraeth dorri’r cylch cam-drin plant. Mae’n rhaid cyfathrebu’n well a gweithio ar draws asiantaethau ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau i blant, yn ogystal â gwneud ymdrech fawr i hyrwyddo ymyraethau a rhaglenni ataliol. Dylai pob gweithiwr aml-asiantaeth ddefnyddio’r un system fel bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithiol. Dylai gwiriadau llesiant fod yn orfodol ar gyfer plant ifanc, gan gynnwys profion deintyddol a deietegol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

258 llofnod

Dangos ar fap

10,000