Deiseb a gwblhawyd Canslwch arholiadau Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru ar gyfer haf 2022

Rwy’n teimlo y dylai arholiadau yng Nghymru gael eu canslo ar gyfer haf 2022 oherwydd mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar amser addysgu disgyblion i wahanol raddau ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn ysgol. Rwy’n teimlo hefyd pe bai arholiadau yn mynd yn eu blaen y byddai’n cael effaith ddramatig ar iechyd meddwl a gorbryder disgyblion ar adeg lle mae cyfraddau hunanladdiad ymhlith pobl yn eu harddegau ar eu huchaf. Fy marn i a channoedd o ddisgyblion eraill yw y dylid canslo arholiadau disgyblion ar gyfer haf 2022.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

146 llofnod

Dangos ar fap

10,000