Deiseb a wrthodwyd Dylid cytuno i adeiladu’r ysbyty cymunedol arfaethedig newydd yn y Rhyl cyn gynted â phosibl

Mae Ysbyty Glan Clwyd wedi bod yn gwegian dan bwysau ers blynyddoedd. Nid problem dros dro oherwydd Covid yw hyn; mae Covid wedi gwneud problem a oedd yn bodoli eisoes yn waeth. Mae angen yr ysbyty newydd hwn i leddfu’r baich ar Ysbyty Glan Clwyd. Byddai nifer o gleifion yn cael triniaeth well mewn ysbyty cymunedol lleol yn hytrach nag ysbyty acíwt. Mae cleifion nad oes angen iddynt fod mewn ysbyty acíwt yn “blocio gwelyau”, gan arwain at oedi i bobl eraill y mae angen y gwelyau hynny arnynt. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r cynllun eto. Mae’n rhaid gwneud penderfyniad yn fuan.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi