Deiseb a wrthodwyd Rhowch Amgylchiadau Esgusodol i’r holl fyfyrwyr sy’n sefyll arholiadau yn 2022

Bydd myfyrwyr yr haf hwn yn wynebu mwy o bwysau nag erioed o’r blaen o ganlyniad i’r pandemig, sy’n rhywbeth nad oes ganddynt reolaeth drosto. Os bydd arholiadau’n cael eu cynnal, bydd y ffaith bod pobl wedi colli amser dysgu yn yr ysgol oherwydd COVID-19 yn effeithio ar eu graddau.
Mae Amgylchiadau Esgusodol yn frawddeg a ddefnyddir i ddisgrifio ffactorau difrifol ac eithriadol y tu hwnt i’ch rheolaeth sydd wedi cael effaith negyddol ar eich perfformiad yn ystod eich astudiaethau.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi