Deiseb a gaewyd Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru.

Ym 1999, newidiodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth i ganiatáu i fwy na dim ond milfeddygon cymwys fod yn berchen ar bractisau milfeddygol. Fe wnaeth hyn olygu bod modd i gorfforaethau rhanddeiliaid eciwiti preifat brynu i mewn i’r farchnad hon. Mae’r sefydliadau hyn sy’n cael ei gyrru gan elw wedi newid y proffesiwn fel mai prin y mae modd ei adnabod.
Mae llawer o rannau o Gymru lle mae bron yn amhosibl dod o hyd i bractis milfeddygol sy’n cael ei redeg yn annibynnol. Mae’r pryniant corfforaethol bellach yn ymestyn i ddarpariaeth y tu allan i oriau a phractisau atgyfeirio yn ogystal â phractisau cyffredinol. Y corfforaethau sydd hefyd yn berchen ar y labordai, y cwmnïau cyffuriau a’r amlosgfeydd anifeiliaid anwes, yn ogystal â rhandaliadau mewn llawer o gwmnïau bwyd anifeiliaid anwes. Mae monopoli o’r fath yn golygu bod bron dim posibilrwydd i’r ychydig o bractisau annibynnol sy’n weddill allu goroesi. Yn bennaf oherwydd eu grym prynu drwy recriwtio, o’r ysgol filfeddygol i’r practis, mae gan y corfforaethau fantais. Yn y cyd-destun hwn, mae eu dylanwad ar gyrff fel Coleg Brenhinol y Milfeddygon a Chymdeithas Milfeddygon Prydain i’w ddisgwyl.

Rhagor o fanylion

I’r rheini ohonom ag anifeiliaid anwes, mae’r monopoli hwn wedi cael effeithiau ofnadwy. Mae hyn yn cynnwys diffyg dewis o ran canfod practis annibynnol, gweld yr un milfeddyg ar gyfer parhad gofal a chost. Ond mae’r rhan fwyaf o benderfyniadau clinigol yn cael eu gwneud gyda pholisïau corfforaethol yn fwyaf pwysig.
Mae’n drist dweud bod fy mhrofiad gyda fy nghath Rosa yn golygu na fyddaf byth yn ymddiried mewn rhai yn y proffesiwn. Mae anifeiliaid anwes yn rhan o deuluoedd pobl. Mae Covid, ynysu a phroblemau iechyd meddwl wedi gwneud y berthynas hon yn fwy gwerthfawr byth.
Mae’n gas gen i feddwl (ond wedi cael fy hysbysu) sut mae’r sector achub anifeiliaid yng Nghymru yn ymdopi. Oherwydd mae’n rhaid ei fod yn ymdrin â rhai o’r anifeiliaid sydd wedi wynebu’r cam-drin mwyaf a’r her glinigol fwyaf, ac yn aml mae ganddynt anghenion meddygol sylweddol a chymhleth.
Er gwaethaf deisebau niferus i Lywodraeth y DU, nid yw Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi cymryd unrhyw gamau o gwbl. Mae Cymru wedi arwain y ffordd o’r blaen ynghylch anifeiliaid a’u lles, felly rydym yn gofyn i’r Senedd wneud hynny.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

308 llofnod

Dangos ar fap

10,000