Deiseb a wrthodwyd Gallu optio mewn/optio allan i dderbyn unrhyw fath o gyfathrebiad yn Gymraeg neu'n Saesneg, nid yn y ddwy iaith

Yn ddiweddar cefais lythyr swyddogol yn y post a oedd yn cynnwys 4 tudalen yn Gymraeg a 4 tudalen yn Saesneg. Cafodd ffrind lythyr gwarchod 14 tudalen yn Gymraeg ac 14 tudalen yn Saesneg. Gallwn nodi llawer mwy o enghreifftiau. Ysgrifennais at Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a oedd wedi dychwelyd o COP 26, gan gredu y byddai gwastraffu adnoddau naturiol yn ogystal â’r gost enfawr i fusnesau o orfod cynhyrchu dwy fersiwn o bopeth yn arwain at ymateb cadarnhaol.

Rhagor o fanylion

Cefais fy nhrosglwyddo i Uwch-swyddog yn Llywodraeth Cymru. Yr ymateb oedd sawl dyfyniad gan Gomisiynydd y Gymraeg. Y trethdalwr sy’n talu am hyn i gyd ar adeg pan fo toriadau enfawr yn cael eu gwneud i wasanaethau’n gyffredinol. Bob tro y byddaf yn gweld neu'n clywed y geiriau 'Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ar gyfer __________, llenwch y gwagle, rwy'n atgoffa fy hun mai dyma fy arian treth i a'ch arian treth chi y mae’n ei wario.
Ni chefais unrhyw ymateb i fy mhryder ynghylch newid hinsawdd.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi