Deiseb a gwblhawyd Rhaid atal gollyngiadau carthion amrwd ar fyrder ym Mae'r Tŵr Gwylio a’r Hen Harbwr yn y Barri

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i atal gollyngiadau carthion amrwd ar fyrder ym Mae'r Tŵr Gwylio a’r Hen Harbwr yn y Barri. Mae'r gollyngiadau hyn yn deillio o systemau gorlif carthffosydd cyfun ac mae mwy a mwy o garthffosiaeth yn cael ei ollwng oherwydd y nifer cynyddol o achosion o law trwm a welwn o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd.
Cafodd y bae hwn ei ddynodi’n ddiweddar yn ardal sy’n cynnal bywyd gwyllt pwysig ac mae Bae’r Tŵr Gwylio yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan lawer o grwpiau nofio dŵr oer, padlfyrddwyr a chaiacwyr.

Rhagor o fanylion

Rydym yn llawn sylweddoli bod gwastraff heb ei drin sy’n cael ei ryddhau o systemau gorlif carthffosydd cyfun yn broblem genedlaethol ac y bydd angen buddsoddi symiau mawr o arian yn ein rhwydwaith carthffosiaeth.
Ond credwn hefyd fod pobl Cymru yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r llygredd echrydus hwn a’u bod yn awyddus i weld camau’n cael eu cymryd i ddatrys y broblem hon.
Yn anffodus, nid oes unrhyw fannau monitro yn y bae fel sydd ym Mae Jacksons, Bae Whitmore a Bae Knap.
Galwn felly am i’r lleoliad hwn gael ei ychwanegu ar fyrder at restr Cyfoeth Naturiol Cymru o safleoedd samplu ansawdd dŵr ymdrochi.
Mae bae’r Tŵr Gwylio a’r Hen Harbwr yn cynnal bywyd gwyllt a phobl, felly dylai Dŵr Cymru roi blaenoriaeth i fuddsoddi yn y safleoedd hyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,633 llofnod

Dangos ar fap

10,000