Deiseb a wrthodwyd Ni ddylai arddangos gwybodaeth am galorïau ar fwydlenni fyth fod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru.

Yn Lloegr, o ddydd Mercher 6 Ebrill 2022, mae rheolau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth am galorïau gael eu harddangos ar fwydlenni a labeli bwyd.
Diben y ddeiseb hon yw gwneud Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ba mor niweidiol y gall hyn fod i’r rhai sy’n brwydro gyda bwyta anhwylus, ac annog gwybodaeth am galorïau i gael ei chadw oddi ar fwydlenni yng Nghymru, oni wneir cais am y wybodaeth ymlaen llaw.

Rhagor o fanylion

"Mae’r ddeddfwriaeth newydd hon yn creu un rhwystr arall i bobl sy’n gwella a chreu perthynas iach a chyfforddus gyda bwyd. Dylai pobl fod yn gallu dewis bwyd ar sail sefyllfa a mwynhad, yn hytrach nag ofn." - Megan Jayne Crabbe, Esiampl o Rywun sy’n Hapus yn ei Chorff/Gweithredwraig/Awdur.

The Guardian: Consumers respond to calorie labelling roll out.
https://www.theguardian.com/food/2022/apr/06/consumers-respond-calorie-labelling-rollout

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi