Deiseb a wrthodwyd Ailgyflwynwch y cynlluniau 'hawl i brynu' a 'rhentu i brynu'.

Ailgyflwynwch y cynllun 'hawl i brynu' fel y gall pobl sy'n rhentu gan awdurdodau lleol brynu eu cartrefi. Bydd pobl yn Lloegr yn gallu prynu’r tai cyngor maen nhw’n eu rhentu gan fod Boris Johnson yn ailgyflwyno’r rhaglen.

Rhagor o fanylion

Mae costau byw yn uchel, ac mae'n anodd cael morgais a dringo'r ysgol dai. Mae'n bwysig bod y llywodraeth yn gallu cefnogi pobl gan ddefnyddio gwahanol fentrau cyllid.
Diddymwyd y cynllun hawl i brynu yng Nghymru yn 2019. Fodd bynnag, rwy’n credu y dylai gael ei ailgyflwyno. Mae llawer o bobl fel fi sy'n rhentu eu cartrefi gan y cyngor lleol wedi gwario miloedd o bunnoedd yn ailwampio’r cartrefi hyn. Pan symudon ni i mewn i'n heiddo roedd yn newydd, ond roedd yn rhaid i ni roi’r holl ddodrefn ynddo ar wahân i gypyrddau'r gegin. Mae ganddo werth sentimental i ni a byddai'n anodd symud i rywle arall. Rydyn ni’n awyddus iawn i fod yn berchen ar dŷ. Yn anffodus, mae llawer o raglenni cymorth prynu wedi cael eu diddymu, fel rhentu i brynu neu hawl i brynu. I gael morgais, dylai lefel incwm yr aelwyd fod tua 45,000 i 50,000 o bunnoedd. Nid yw’n bosibl i deulu arferol gyflawni hyn. Cefnogwch yr ymgyrch i ailgyflwyno'r cynllun hwn. Diolch.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi