Deiseb a wrthodwyd Sicrhau bod archeolegwyr yn cynnal arolwg o bob gwaith mawr sy’n tarfu ar y ddaear

Pan gaiff gwaith adeiladu mawr ei gynllunio mewn unrhyw etholaeth yng Nghymru, nid oes reidrwydd ar unrhyw gwmni adeiladu i weithio gydag archeolegwyr i gynnal arolwg o’r tir am arwyddion posibl o bwysigrwydd hanesyddol. Teimlaf fod angen mynd i’r afael â hyn os ydym am ddysgu o’n hanes, sy’n cynorthwyo i ganfod ein hetifeddiaeth a’n hunaniaeth.

Rhagor o fanylion

Ar ôl gweld y ffordd osgoi fawr yn cael ei hadeiladu ger Caernarfon, sy’n ardal o bwysigrwydd arwyddocaol mewn cysylltiad ag olion yr oes haearn yn yr Eifl a Dinas Dinlle, cafodd tunelli o bridd a miloedd o gerrig a adeiladwyd unwaith gan ffermwyr eu dadleoli gan weithwyr adeiladu nad oedd ganddynt unrhyw gefndir mewn archeoleg na gradd mewn hanes. Felly, gallai arteffactau pwysig fod wedi cael eu dinistrio neu eu hanwybyddu.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi