Deiseb a wrthodwyd Sicrhau bod gemau Cwpan y Byd Cymru sy’n cael eu cynnal yn ystod oriau ysgol yn cael eu dangos mewn ysgolion.

Mae pobl Cymru yn caru chwaraeon. Mae'n ffordd wych o fynegi eich balchder a'ch angerdd cenedlaethol dros Gymru. Os bydd Cymru yn ennill lle yng Nghwpan y Byd, bydd rhai gemau'n cael eu chwarae yn ystod y diwrnod ysgol, ac mae'n bwysig sicrhau bod plant Cymru yn gallu cefnogi eu tîm. Mae ysgolion yn wynebu llawer iawn o straen yn cefnogi myfyrwyr sydd â heriau cymdeithasol, heriau digidol neu heriau yn yr ystafell ddosbarth. Gall dod at ei gilydd i gefnogi Cymru fod yn brofiad cadarnhaol. Mae menywod, dynion a phlant yn llawenhau'n naturiol er gwaethaf gwahaniaethau pan fydd Cymru yn chwarae.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi