Deiseb a gwblhawyd Dylid cymhwyso buddiannau Cymru ac amddiffyn cyfraith ryngwladol yn erbyn marwolaeth pysgod oherwydd EDF-Hinkley yn Aber Afon Hafren

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i siarad â George Eustice yn San Steffan ar frys ynglŷn â’r ffaith bod rheoleiddwyr Lloegr yn diystyru mewn modd amlwg yr ‘egwyddor dim niwed’ mewn perthynas â statws Ardal Forol Warchodedig (MPA) Aber Afon Hafren. Mae a wnelo hyn â chaniatáu dympio gwaddodion a deunyddiau solet o Hinkley i'r Hafren a pharhau â thrwydded system Hinkley ar gyfer oeri dŵr y môr sy'n peri i bysgod a physgod ifanc gael eu lladd ar raddfa enfawr, ynghyd â difrod ecolegol sylweddol.

Rhagor o fanylion

Rhennir stiwardiaeth MPA Hafren rhwng awdurdodau yng Nghymru a Lloegr, felly mae angen i Lywodraeth Cymru bwyso ar reoleiddwyr Lloegr i gydymffurfio. Dynodwyd yr MPA ar y cyd yn 2018 o dan y Comisiwn OSPAR rhyngwladol. Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn atal niwed i bysgod a rhagor o ddympio ar ochr Cymru i’r Aber yn sgil carthu cyfalaf.
Dywedodd adroddiad Hinkley ar gyfer Prif Weinidog Cymru y dylai gorsaf bŵer Hinkley Point C ddefnyddio system oeri ar y tir.
● Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn y cyngor arbenigol hwn a herio George Eustice i ddweud wrth reoleiddwyr Lloegr i gynnal statws MPA Aber Afon Hafren a chadw at y polisïau y cytunwyd arnynt ar y cyd ar ddiogelu a rheoli gweithgareddau yn yr MPA.
● Dylai’r polisïau cyffredin hyn gynnwys a datblygu’r egwyddor ‘dim niwed’ a ddisgrifir yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Byddai hyn yn cynnwys peidio â dympio gwastraff a rhoi diwedd ar fewnlif dŵr oeri Hinkley a fydd, fe amcangyfrifir, yn lladd hanner miliwn o bysgod bob dydd o’r 60 mlynedd y bydd yn weithredol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

565 llofnod

Dangos ar fap

10,000