Deiseb a wrthodwyd Dylid codi’r trothwy ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach i gyd-fynd â Lloegr a’r Alban.

Ar hyn o bryd, y trothwy ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru yw £6,000. Mae hyn yn golygu bod unrhyw eiddo ardrethol dros £6,000 yn agored i ardrethi busnes. Y trothwy yn Lloegr yw £12,000, a £15,000 yn yr Alban.

Rhagor o fanylion

Ar hyn o bryd, mae busnesau yn gymwys i gael gostyngiad o 50 y cant ar eu hardrethi busnes. Gyda'r gostyngiad presennol, mae'r costau'n taro busnesau’n galed iawn. Fodd bynnag, ym mis Ebrill, bydd y gostyngiad yn dod i ben a bydd yn rhaid i fusnesau â gwerth ardrethol o £6,000 dalu 100 y cant o'u hardrethi busnes. Bydd hyn yn parlysu busnesau.
Er enghraifft - y flwyddyn nesaf, bydd yn rhaid i fusnesau yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o £8,800 dalu tua £2,200 mewn ardrethi busnes i'w cyngor lleol. Yn Lloegr a'r Alban ar y llaw arall, ni fydd yn rhaid i fusnesau â’r gwerth ardrethol hwn dalu unrhyw ardrethi busnes.
O ran tegwch a chefnogaeth i bob busnes, dylid codi’r trothwy yng Nghymru i o leiaf £12,000, fel ein cymydog – Lloegr.
Mae'r stryd fawr a phob busnes eisoes yn ei chael hi'n anodd. Y cynnydd yn yr ardrethi o fis Ebrill 2023 fydd yr hoelen olaf yn arch busnesau bach a bydd yn effeithio ar yr economi.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi