Deiseb a wrthodwyd Rhaid glanhau’r sbwriel ym Mae Caerdydd, yn enwedig y sbwriel yn y dŵr.

Yn Ysgol Gynradd Moorland, rydym ni wedi bod yn astudio Bae Caerdydd. Rydym ni’n teimlo bod gormod o sbwriel yn y dŵr ac o amgylch y Bae.

Rhagor o fanylion

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag Awdurdod Harbwr Caerdydd i sicrhau ei fod yn cyflawni ei nod o “gynnal a gwella amgylchedd rhagorol, cynaliadwy”.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi