Deiseb a wrthodwyd Dylid gwahardd planhigion plastig yng Nghymru

Mae'r cynnydd mewn plastigion yn yr amgylchedd naturiol wedi'i peri pryder ers tro, bellach.
Yn ddiweddar, mae archfarchnadoedd wedi dechrau gwerthu glaswellt plastig, blodau plastig, gwrychoedd plastig a hyd yn oed coed plastig.
Wrth i'r cynhyrchion hyn heneiddio, trwy hindreulio ac ymbelydredd UV, mae'n anochel y byddant yn dechrau dadfeilio’n ficro-blastigau â’r gallu i gyrraedd llif dyfroedd, ymdreiddio i ecosystemau, a hyd yn oed yr organebau eu hunain.
Rwy’n cynnig bod y Senedd yn gwahardd y cynhyrchion diangen hyn, sy’n llygru.

Rhagor o fanylion

Fe wnaeth dadansoddiad cemegol o laswellt artiffisial a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Iâl ganfod 96 o gemegau gydag 20 y cant ohonynt yn garsinogenau, yn ôl pob tebyg. Yn ogystal, mae glaswellt artiffisial yn cynnwys PFAS gwenwynig iawn neu ‘gemegion sy’n bodoli am byth’ ac sy'n gysylltiedig ag imiwnedd is yn ystod plentyndod, aflonyddwch endocrin a chanser. Mae plant yn arbennig o agored i niwed o ran anadlu, llyncu ac amsugno trwy’r croen, gan eu bod yn is i'r ddaear ac yn anadlu'n gyflymach.
https://environmentaldefence.ca/2022/03/31/plastic-grass-isnt-green-the-problem-with-artificial-turf/

https://education.nationalgeographic.org/resource/microplastics

https://royalsocietypublishing.org/doi/abs/10.1098/rspb.2021.2077

https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/microplastic-pollution-rivers-uk-wales-15936633

https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/31234003/

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi