Deiseb a wrthodwyd Dylid gwahardd polystyren

Nid yw polystyren yn bydradwy ac mae’n cynnwys cemegau niweidiol, ac mae hyn yn arwain at ei fod yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd ac ar fywyd gwyllt.

Nid yw'n hawdd ei ailgylchu, felly nid yw'n cael ei gasglu gyda deunyddiau a gaiff eu hailgylchu bob dydd. Mae'n fflamadwy iawn ac yn creu mwg gwenwynig sydd eto'n niweidiol i'r amgylchedd.

Polystyren yw un o'r prif fathau o sbwriel nad yw'n cael ei waredu'n gywir.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi