Deiseb a gwblhawyd Rhaid gweithredu ar unwaith i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn HOLL ysgolion Cymru, nid ysgolion uwchradd yn unig

Mae ymchwiliad diweddar y Senedd i aflonyddu rhywiol mewn ysgolion uwchradd wedi dangos graddfa’r broblem, yn enwedig i ferched. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod aflonyddu hefyd yn rhemp mewn ysgolion cynradd a cholegau, ac mae’r adroddiad yn argymell cynnal adolygiadau pellach. Ni allwn aros am ragor o ymchwiliadau cyn gweithredu. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y camau a gymerir yn sgil yr adroddiad yn cael eu hymestyn ar unwaith i gynnwys pob lleoliad, a hynny er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel rhag aflonyddu rhywiol drwy gydol eu haddysg.

Rhagor o fanylion

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Gorffennaf 2022, sef 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr’, a’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn ym mis Rhagfyr 2021, sef ‘Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon’, ill dau wedi dangos maint a graddfa’r broblem o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion, yn enwedig yr aflonyddu y mae merched yn ei wynebu.
Dangosodd y dystiolaeth nad yw hyn yn digwydd mewn ysgolion uwchradd yn unig; mae'n dechrau yn y sector cynradd, ac yn dilyn merched a menywod ifanc i addysg bellach a thu hwnt. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiadau pellach o’r lleoliadau hyn.
Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru wedi bod yn aros yn ddigon hir am gamau gweithredu ynghylch y mater hwn, sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd a’u profiadau dysgu. Bydd ymchwiliad arall ond yn gohirio’r gwaith pwysig o newid diwylliant sy’n ystyried bwlio rhywiol cyffredin fel rhan arferol o gymdeithas ac addysg. Rhaid gweithredu yn awr ym mhob ysgol a choleg.
https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig/dydyn-ni-ddim-yn-dweud-wrth-ein-hathrawon-profiadau-o-aflonyddu-rhywiol-rhwng

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38554

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

417 llofnod

Dangos ar fap

10,000