Deiseb a wrthodwyd Deddfu i atal cwmnïau dŵr rhag achosi camdriniaeth amgylcheddol

Mae cwmnïau dŵr yn rhoi elw o flaen cyfrifoldebau cymdeithasol ac amgylcheddol. Rydym yn grŵp mawr o nofwyr dŵr oer, ac mae pob un ohonom wir yn mwynhau cyfeillgarwch ein sesiynau cymdeithasol yn ein hamgylchedd naturiol. Mae’r amgylchedd hwn wedi cael ei gam-drin gan fod carthion amrwd yn cael eu gollwng i’r môr, sy’n golygu na allwn ni na phobl eraill ar y traeth fynd i’r môr. Mae hyn yn annerbyniol ac yn anghynaliadwy. Mae’r ffaith bod hyn yn digwydd yn warthus ac mae’n drychinebus eu bod yn gwneud elw mor fawr.

Rhagor o fanylion

Mae cyfeiriadau tystiolaethol i’w gweld yn eang yn y cyfryngau.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi