Deiseb a wrthodwyd Dylid newid y weithdrefn ddeisebau er mwyn sicrhau bod deisebau sy’n cael eu hystyried yn cael eu cefnogi yn bennaf gan bobl Cymru

Ym mis Chwefror 2022, crëwyd deiseb ar gyfer “ymchwiliad Llywodraeth Cymru i ymgyrch gweithredwyr hawliau traws ym Mhrifysgol Caerdydd". Wrth edrych ar y data daearyddol cysylltiedig, gwelwn fod 57 y cant o’r llofnodion a gasglwyd ar gyfer y ddeiseb hon wedi deillio o bobl yn Lloegr, a dim ond 27 y cant ohonynt o bobl sy’n byw yng Nghymru. Yn amlwg, ymgais gan amrywiaeth o grwpiau o’r tu allan i Gymru i gam-fanteisio ar y system yw’r achos hwn, ac nid yw wir yn fater sy’n peri pryder i bobl Cymru. Dylid cymryd camau i graffu ar ddeisebau o’r math hwn.

Rhagor o fanylion

Linc i ddata daearyddol yn ymwneud â’r gŵyn am weithredwyr hawliau traws ym Mhrifysgol Caerdydd – https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/245116/map?view=countries&count=signatures
Linc i dudalen ar wefan Mumsnet sy’n hyrwyddo'r ddeiseb ymhlith pobl y tu allan i Gymru - https://www.mumsnet.com/talk/petitions_noticeboard/4523787-Petition-in-support-of-investigation-into-scandal-at-Cardiff-University-Please-sign

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi