Deiseb a wrthodwyd Galw ar y Gweinidog Iechyd i gyflwyno cyfleusterau Triniaeth â Chymorth Heroin yng Nghymru

Mae cyfleusterau Triniaeth â Chymorth Heroin wedi’u trwyddedu gan y Swyddfa Gartref i ddarparu diamorffin meddyginiaethol i ddefnyddwyr opiadau problematig i fynd i’r afael â’u dibyniaeth ac i’w perswadio i roi’r gorau i ddefnyddio heroin stryd a gyflenwir mewn modd troseddol sy’n beryglus i iechyd ac sy’n achosi’r nifer cynyddol o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru.
Mae cyfleusterau Triniaeth â Chymorth Heroin ar gael yn Lloegr a'r Alban ac mae’r dystiolaeth yn dangos manteision o ran iechyd a manteision cymdeithasol.

Rhagor o fanylion

Manteision cyfleusterau Triniaeth â Chymorth Heroin:
1. Maent yn gyfreithlon ac yn cael eu caniatáu o dan drwydded y Swyddfa Gartref.
2. Maent yn achub bywydau.
3. Maent yn atal afiechyd a heintiau.
4. Maent yn lleihau'r galw ar y GIG.
6. Maent yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy leihau’r defnydd cyhoeddus o gyffuriau.
7. Maent yn lleihau sbwriel cyffuriau a'r risg o drosglwyddo haint drwy anafiadau nodwydd.
8. Maent yn lleihau troseddau meddiangar.
9. Maent yn lleihau’r cyflenwad anghyfreithlon o heroin stryd
10. Maent yn lleihau’r lefelau trais sy'n gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi