Deiseb a gwblhawyd Diogelu canolfannau hamdden a phyllau nofio rhag gorfod cau yn ystod yr argyfwng ynni presennol

Mae pyllau nofio a chanolfannau hamdden ledled y wlad dan fygythiad wrth i’r argyfwng ynni effeithio ar gymunedau ledled y genedl. Mae’r cyfleusterau hyn yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl Cymru ac maent yn hanfodol i lesiant y wlad.

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Senedd a Llywodraeth Cymru i gydnabod pa mor fregus yw sefyllfa pyllau nofio drwy ddarparu pecyn o gymorth ariannol wedi’i neilltuo y tu hwnt i’r Setliad Terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol i sicrhau bod pyllau nofio’n gallu aros ar agor.

Rhagor o fanylion

Mae 40 y cant o ardaloedd cyngor mewn perygl o golli eu canolfan(nau) hamdden neu o weld llai o wasanaethau yn eu canolfan(nau) hamdden cyn 31 Mawrth 2023.
Mae tri chwarter (74 y cant) o ardaloedd cyngor wedi’u nodi’n ‘anniogel’, sy’n golygu bod perygl y bydd canolfannau hamdden yn cau a/neu yn cynnig llai o wasanaethau cyn 31 Mawrth 2024 (data gan UK Active: https://www.ukactive.com/news/forty-per-cent-of-council-areas-at-risk-of-leisure-centre-and-swimming-pool-closures-and-restrictions-before-april-without-immediate-support/)
Mae 61 y cant o blant yn ysgolion cynradd Cymru am gael mwy o gyfleoedd i nofio (Arolwg gan Chwaraeon Cymru o chwaraeon mewn ysgolion yn 2022)
Dim ond 42 y cant o blant ym mlynyddoedd 3-6 yng Nghymru sy’n gallu nofio 25m heb gymorth (Ffynhonnell: Archwiliad o ddarparwyr gan Nofio Cymru, 2022)
Mae Cyngor Powys yn bwriadu defnyddio arian wrth gefn i gadw pyllau ar agor (https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-64010393)
Mae 80 y cant o aelodau Community Leisure UK mewn sefyllfa fregus yn ariannol (https://communityleisureuk.org/news/sos-plea-to-chancellor/)
Mae 234,000 o oedolion yng Nghymru am gael mwy o gyfleoedd i nofio (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021)

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

7,687 llofnod

Dangos ar fap

10,000