{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246645.json"},"data":{"type":"petition","id":246645,"attributes":{"action":"Gwnewch hi'n amod cynllunio bod gan bob cartref newydd systemau dŵr llwyd/dŵr glaw wedi'u gosod. ","background":"Gyda llawer o Gymru yn dioddef o amodau sychder yn rheolaidd, mae'n amser gosod systemau dŵr glaw/dŵr llwyd ym mhob cartref newydd. Mae dŵr yfed drud yn cael ei wastraffu, yn cael ei ddefnyddio i fflysio toiledau ac i ddyfrio gerddi. \r\nMae ystadegau yn dangos y dylai hyn leihau'r defnydd o ddŵr ffres hyd at 50%. \r\nByddai hyn yn fuddugoliaeth i berchnogion tai a'r amgylchedd, gan y dylai biliau dŵr leihau a bydd achosion o gymryd cyflenwadau o gronfeydd dŵr, tyllau turio ac afonydd hefyd yn cael ei leihau. ","additional_details":"Drwy gasglu a storio dŵr glaw, rydych yn lleihau'r angen i ddibynnu ar ddŵr y prif gyflenwad, ac felly’n helpu i arbed dŵr yfed wedi'i drin, sy’n werthfawr. Mae dŵr glaw yn naturiol feddal ac yn rhydd o gemegau, gan ei wneud yn ddewis gwell ar gyfer dyfrio planhigion. \r\nGall defnyddio dŵr glaw at ddibenion nad ydynt yn ymwneud ag yfed, fel dyfrio a fflysio toiledau leihau eich biliau dŵr yn sylweddol. \r\nDrwy leihau eich dibyniaeth ar ddŵr y brif gyflenwad, rydych hefyd yn lleihau'r ynni sydd ei angen i drin a dosbarthu'r dŵr hwnnw sy'n helpu i leihau eich ôl troed carbon.","state":"rejected","signature_count":119,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2025-06-09T17:32:53.337Z","updated_at":"2026-04-13T10:31:12.254Z","rejected_at":"2025-12-13T00:00:00.000Z","opened_at":"2025-06-11T10:36:10.268Z","closed_at":"2025-12-11T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2025-06-10T06:56:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2026-04-13T10:31:11.054Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":{"code":"insufficient","details":null},"debate":null,"topics":[{"code":"cynllunio","name":"Cynllunio"},{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}]}}}