{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246818.json"},"data":{"type":"petition","id":246818,"attributes":{"action":"Dylid cyflymu mynediad estynedig at naloxone ar gyfer y gwasanaethau allgymorth digartrefedd yng Nghymru","background":"Mae marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn 2024 a 2025, yn enwedig marwolaethau o ganlyniad i opioidau synthetig fel nitazenau, yn gwneud mynediad uniongyrchol at naloxone yn fater o fywyd neu farwolaeth.\r\n\r\nAr hyn o bryd mae gwasanaethau allgymorth haen 2 pwrpasol fel ‘SAM Recovery’ (cwmni buddiant cymunedol (CIC)) yn wynebu rhwystrau diangen i gyflenwi naloxone, sy'n achub bywydau, ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol heb bresgripsiwn.\r\n","additional_details":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith o ran y cynnig i ehangu mynediad at naloxone ar gyfer gwasanaethau allgymorth digartrefedd, hosteli a chanolfannau dydd yng Nghymru, ac i osgoi'r oedi presennol wrth weithredu'r ddeddfwriaeth ledled y DU tan ddiwedd 2026.\r\n\r\nLluniwyd y ddeiseb hon gan yr unigolion a ganlyn sy'n gwella o fod yn gaeth, ac sydd, drwy brofiad byw, yn gwybod yn union bod yr hyn y gofynnir i chi ei gyflymu yn fater o fywyd neu farwolaeth.\r\n\r\nEmma Mcnamara\r\nYmgeisydd Annibynnol ar gyfer y Senedd nesaf dros Gŵyr Abertawe\r\n\r\nMichelle Price\r\nCyfarwyddwr gwasanaeth adferiad ‘SAM Recovery’,(cwmni buddiant cymunedol (CIC)), Abertawe\r\n\r\nCullan Mais\r\nSylfaenydd podlediad y ‘clwb canolog’","state":"rejected","signature_count":22,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2025-12-31T01:43:08.362Z","updated_at":"2026-09-05T23:00:04.279Z","rejected_at":"2026-09-05T23:00:00.000Z","opened_at":"2026-01-29T12:17:32.419Z","closed_at":"2026-09-04T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-01-01T19:03:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":{"code":"insufficient","details":null},"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}}}