{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246825.json"},"data":{"type":"petition","id":246825,"attributes":{"action":"Cyflwyno cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer addysg gorfforol a gweithgarwch corfforol yn holl ysgolion cynradd Cymru.","background":"Nid yw plant yng Nghymru yn cael yr un cyllid gwarchodedig ar gyfer addysg gorfforol a gweithgarwch corfforol â phlant yn Lloegr. Mae ysgolion cynradd yn Lloegr yn elwa o gyllid wedi’i glustnodi ar gyfer addysg gorfforol a chwaraeon, gan gefnogi hyfforddiant, cyfarpar a darpariaeth o ansawdd. Yng Nghymru, mae pwysau amser ac adnoddau cyfyngedig yn aml yn effeithio ar faint o addysg gorfforol y mae plant yn ei chael. Mae'r bwlch cyllido hwn yn effeithio ar ddatblygiad corfforol, hyder, llesiant ac iechyd gydol oes plant.","additional_details":"Nid yw Cymru yn darparu cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer addysg gorfforol a gweithgarwch corfforol mewn ysgolion cynradd. Yn Lloegr, mae cyllid gwarchodedig yn cefnogi hyfforddiant, cyfarpar a darpariaeth gyson.\r\nYng Nghymru, mae’n rhaid i addysg gorfforol gystadlu â’r pwysau eraill ar ysgolion, gan arwain at brofiadau anghyson i blant. Cyfyngedig yw’r hyfforddiant arbenigol mewn addysg gorfforol, dawns a sgiliau symud sylfaenol y mae llawer o athrawon cynradd yn ei gael.\r\nHeb gyllid pwrpasol, mae ysgolion yn ei chael hi'n anodd buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol neu gymorth arbenigol, gan effeithio ar ansawdd gwersi a dilyniant. Mae ysgolion hefyd yn adrodd am ddiffyg cyfarpar neu gyfarpar hen ffasiwn, yn ogystal â mynediad cyfyngedig i gyfleusterau dan do addas.\r\nMae disgwyl i ysgolion ariannu adnoddau addysg gorfforol eu hunain o gyllidebau sydd eisoes dan bwysau yn anghynaliadwy. Mae addysg gorfforol o ansawdd uchel yn meithrin llythrennedd corfforol, hyder, lles, ymddygiad a pharodrwydd i ddysgu.\r\nMae buddsoddi’n gynnar mewn symud yn cefnogi iechyd a chyfranogiad gydol oes. Byddai cyllid wedi'i glustnodi yn creu cyfleoedd tecach i blant ledled Cymru.\r\n","state":"rejected","signature_count":150,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-01-10T13:58:19.302Z","updated_at":"2026-07-22T23:00:08.197Z","rejected_at":"2026-07-22T23:00:00.000Z","opened_at":"2026-01-13T14:55:39.343Z","closed_at":"2026-07-21T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-01-10T14:09:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":{"code":"insufficient","details":null},"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"chwaraeon","name":"Chwaraeon"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}]}}}