{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246829.json"},"data":{"type":"petition","id":246829,"attributes":{"action":"Newidiwch y penderfyniad i ddiddymu cyllid Dechrau Da, BookTrust Cymru ar gyfer cynllun llyfrau babanod am ddim ","background":"Mae'r penderfyniad i ddiddymu’r cyllid ar gyfer y cynllun yn golygu mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU sydd heb y cynllun hiresfydlog hwn i ddarparu llyfrau babanod am ddim. Mae’n gynllun sydd wedi profi ei werth a'i effaith dros nifer o flynyddoedd.\r\nBookTrust yw’r elusen ddarllen fwyaf ar gyfer plant yn y DU a'i chenhadaeth yw cael plant o gefndiroedd teuluol bregus ac incwm isel i ddarllen yn rheolaidd, o ddewis ac er pleser. Mae’n canolbwyntio ar helpu plant yn ystod blynyddoedd datblygiadol allweddol.","additional_details":"Mae gwaith BookTrust wedi’i hysgogi gan dystiolaeth. Mae ei hymchwil yn rhoi cipolwg unigryw ar fywydau'r teuluoedd y mae’n gweithio gyda nhw a'r hyn sy'n gweithio i feithrin arferion darllen sy'n dod â buddion uniongyrchol a gydol oes i'r plant sydd eu hangen fwyaf.\r\n\r\nMae BookTrust Cymru yn gweithio gyda phartneriaid cyflawni ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i gyflwyno ystod o raglenni effeithiol a dwyieithog a fydd yn ysbrydoli cariad at ddarllen ymysg plant oherwydd ei bod yn gwybod y gall darllen drawsnewid bywydau.\r\n\r\nO fabanod i blant yn eu blynyddoedd cynnar a hyd at yr arddegau cynnar, mae darllen yn dod â manteision dwfn ac eang a all gael effaith gadarnhaol gydol oes ar fywydau plant.\r\n","state":"rejected","signature_count":222,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-01-16T09:05:24.671Z","updated_at":"2026-06-08T23:00:02.245Z","rejected_at":"2026-06-08T23:00:00.000Z","opened_at":"2026-01-22T14:29:06.276Z","closed_at":"2026-06-07T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-01-17T09:16:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":{"code":"insufficient","details":null},"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}]}}}