{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246834.json"},"data":{"type":"petition","id":246834,"attributes":{"action":"Amddiffyn Llanidloes: Stopiwch lygredd nwy a dŵr peryglus ac anghyfreithlon o Safle Tirlenwi Bryn Posteg nawr","background":"Mae adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun yn cadarnhau bod Bryn Posteg yn peri risg sylweddol. Yn 2025 yn unig, cofnododd y safle lefelau methan o 84% (terfyn diogelwch: 1%) a gollyngodd solidau i Nant-y-Bradnant ar lefel 140 gwaith y terfyn cyfreithiol. Bu’n rhaid i swyddogion roi'r gorau i gynnal gwiriadau mewn parthau penodol am fod eu larymau diogelwch personol yn dangos bod lefelau peryglus o nwy yno. Er iddo gael ei ddisgrifio fel y safle tirlenwi sy'n perfformio waethaf yng Nghymru, mae llygru’n parhau, gan effeithio ar drigolion lleol. Rydym yn mynnu ymyrraeth i atal difrod na ellir ei wrthdroi.","additional_details":"Mae tystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru (2024–2025, https://publicregister.naturalresources.wales) yn dangos bod Safle Tirlenwi Bryn Posteg yn mynd drwy chwalfa systemig, gan beryglu diogelwch y cyhoedd a'r amgylchedd.\r\n\r\n1. Llygredd Afonydd Difrifol: Ym mis Tachwedd 2025, gollyngodd y safle waddodion i Nant-y-Bradnant ar 7,050 mg/l - 140 gwaith y terfyn cyfreithiol (50 mg/l) (Cyf: CAR_NRW0050076). Er gwaethaf gorchmynion i osod bwnd, canfu arolygwyr ym mis Rhagfyr 2025 nad oedd rhwystr wedi cael ei adeiladu.\r\n\r\n2. Risg Nwy: Roedd lefelau methan ar berimedr y safle yn cyrraedd 84% yn gyson (Cyf: CAR_NRW0049850), sydd ymhell y tu hwnt i’r terfyn diogelwch o 1%. Mae ymfudiad nwy bellach mor ddifrifol, ym mis Ebrill 2025, bu’n rhaid i swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru adael ardal oherwydd rhybuddion gan eu larymau nwy personol.\r\n\r\n3. Mae'r effaith ar drigolion lleol yn ddifrifol: mae pobl yn cael eu cadw y tu ôl i ddrysau caeëdig gan niwsans arogl dyddiol, ac mae ganddynt ofnau ynghylch diogelwch dŵr a ymfudiad nwyon peryglus.\r\n\r\nYn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, hwn yw’r safle tirlenwi sy'n perfformio waethaf yng Nghymru. Rydym yn galw am gamau gweithredu brys gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â chynllun adfer tryloyw.\r\n","state":"closed","signature_count":521,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-01-20T15:41:50.179Z","updated_at":"2026-02-24T00:00:05.726Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-01-22T16:26:00.172Z","closed_at":"2026-02-22T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-01-20T15:54:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-01-24T08:16:30.000Z","referred_at":"2026-02-24T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}],"signatures_by_country":[{"name":"Awstralia","code":"AU","signature_count":1},{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":476},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":40},{"name":"Sweden","code":"SE","signature_count":1},{"name":"Unol Daleithiau America","code":"US","signature_count":1},{"name":"Ynysoedd Falkland","code":"FK","signature_count":1},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000010","name":"Dwyfor Meirionnydd","signature_count":1},{"id":"W09000011","name":"Sir Drefaldwyn","signature_count":411},{"id":"W09000012","name":"Ceredigion","signature_count":6},{"id":"W09000014","name":"Preseli Sir Benfro","signature_count":1},{"id":"W09000015","name":"Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr","signature_count":1},{"id":"W09000016","name":"Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro","signature_count":1},{"id":"W09000020","name":"Dwyrain Abertawe","signature_count":1},{"id":"W09000026","name":"Cwm Cynon","signature_count":2},{"id":"W09000031","name":"Canol Caerdydd","signature_count":1},{"id":"W09000034","name":"Mynwy","signature_count":1},{"id":"W09000041","name":"Brycheiniog a Sir Faesyfed","signature_count":32},{"id":"W09000042","name":"Gogledd Caerdydd","signature_count":2},{"id":"W09000047","name":"Bro Morgannwg","signature_count":3}],"signatures_by_region":[{"id":"W10000006","name":"Canolbarth a Gorllewin Cymru","signature_count":453},{"id":"W10000007","name":"Canol De Cymru","signature_count":8},{"id":"W10000008","name":"Dwyrain De Cymru","signature_count":1},{"id":"W10000009","name":"Gorllewin De Cymru","signature_count":1}]}}}