{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246835.json"},"data":{"type":"petition","id":246835,"attributes":{"action":"Oedi a thynnu'n ôl bolisïau hinsawdd sy'n niweidio natur, ffermydd a bywyd bob dydd yng Nghymru.","background":"Mae polisïau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yng Nghymru yn effeithio fwyfwy ar ffermio, cefn gwlad, tai, trafnidiaeth a bywyd bob dydd.\r\nMae'r DU yn cynhyrchu llai nag 1% o allyriadau CO₂ byd-eang, gydag allyriadau lleol yn llai fyth. Mae llawer o drigolion yn cwestiynu a yw’r mesurau sy’n cael eu cymryd yn enw “gweithredu dros yr hinsawdd” yn gymesur, yn effeithiol, neu’n gyfiawn pan fyddant yn arwain at golli tir fferm, coed, cynefinoedd a bywyd gwyllt, ac at gostau byw uwch, cyfyngiadau teithio a newidiadau parhaol i gymunedau.\r\n","additional_details":"Ledled Cymru, mae polisïau hinsawdd yn cael eu defnyddio i gyfiawnhau datblygiadau ar dir fferm, torri coed a gwrychoedd, colli’r dirwedd wledig a chynefinoedd, ac ymyriadau sy'n effeithio ar fywyd gwyllt ac anifeiliaid.\r\nAr yr un pryd, mae trigolion yn wynebu costau cynyddol, cyfyngiadau ar y ffyrdd a\r\nchyfyngiadau teithio eraill, anawsterau wrth symud o gwmpas, a therfynau ar weithgareddau dyddiol cyffredin, pob un ohonynt wedi'u cyflwyno fel mesurau angenrheidiol am resymau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd.\r\nMae llawer o bobl yn credu bod y polisïau hyn yn niweidio'r amgylchedd naturiol yn hytrach na'i amddiffyn. Mae bywyd gwyllt, tir fferm a mannau gwyrdd yn cael eu colli yn bennaf trwy waith datblygu a seilwaith, nid newid hinsawdd ei hun.\r\nMae'r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i oedi a thynnu’n ôl polisïau a rhaglenni sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd lle mae niwed amgylcheddol, colli tir fferm, difrod i gynefinoedd, cyfyngiadau ar fywyd bob dydd a chostau cynyddol yn amlwg yn gorbwyso unrhyw fudd amgylcheddol mesuradwy.\r\nRhaid i gamau gweithredu dros yr hinsawdd amddiffyn natur a phobl, yn hytrach na chael eu defnyddio i gyfiawnhau polisïau sy'n dinistrio'r union amgylchedd y maent yn honni eu bod yn ei achub.\r\n","state":"closed","signature_count":2174,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-01-20T17:06:57.837Z","updated_at":"2026-09-04T13:36:16.182Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-01-28T11:57:22.293Z","closed_at":"2026-07-29T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-01-21T10:13:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-02-13T15:02:30.000Z","referred_at":"2026-07-30T23:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"amaethyddiaeth","name":"Amaethyddiaeth Coedwigaeth a Bwyd"},{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}],"signatures_by_country":[{"name":"Awstralia","code":"AU","signature_count":1},{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":2031},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":133},{"name":"Unol Daleithiau America","code":"US","signature_count":1},{"name":"Ynysoedd Falkland","code":"FK","signature_count":3},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":5}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":40},{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":76},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":38},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":162},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":55},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":53},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":37},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":150},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":39},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":25},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":111},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":41},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":36},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":36},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":44},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":199}],"signatures_by_region":[]}}}