{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246854.json"},"data":{"type":"petition","id":246854,"attributes":{"action":"Gosod Cofeb i Catrin ferch Owain Glyndŵr yng Nghastell Harlech neu gerllaw","background":"Catrin, merch Owain Glyndŵr. Treuliodd rai o'i blynyddoedd olaf yng Nghastell Harlech wrth i wrthryfel ei thad chwythu ei blwc. Yn ystod y gwarchae, fe gollodd ei gŵr a'i mab, ac ym 1409 cafodd hi, ei mam, a'i merched eu cymryd yn garcharorion a'u symud i Dŵr Llundain.","additional_details":"Mae cofeb fodern i Catrin yn Llundain, ond nid oes dim i’w choffáu yn Harlech, sef y man sydd fwyaf cysylltiedig â'i bywyd. Mae trigolion ac ymwelwyr yn parhau i fod yn anymwybodol o bwy oedd hi a'i chysylltiad â'r castell.\r\n\r\nNid cadfridog nac arweinydd gwleidyddol oedd Catrin, ond merch, gwraig, mam, a sifiliad a ddioddefodd golled bersonol ddwys o ganlyniad i ryfel. Mae ei stori yn cyfleu rhywbeth sydd yn aml yn mynd yn angof, sef profiadau menywod a phlant o wrthdaro yn yr oesoedd canol, ac mae’n cynnig persbectif dynol iawn ar hanes Castell Harlech.\r\nCredwn y byddai cofeb neu nodwedd ddeongliadol seml, wedi'i chynllunio â sensitifrwydd, yn gwneud y canlynol:\r\nAnrhydeddu bywyd a dioddefaint Catrin\r\nEhangu a chyfoethogi’r dehongliad o Gastell Harlech\r\nGwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o brofiadau menywod yn hanes Cymru\r\nCryfhau dealltwriaeth leol a chenedlaethol o'r stori bwysig hon\r\nGofynnwn, gyda pharch, i Cadw archwilio, mewn egwyddor, ddichonoldeb cofeb o'r fath a chynghori ar y camau nesaf priodol.\r\nDrwy lofnodi'r ddeiseb hon, rydych chi'n cefnogi cydnabod Catrin ferch Owain Glyndŵr fel ffigwr arwyddocaol yn nhreftadaeth Cymru ac yn cadarnhau bod ei stori'n haeddu cael ei choffáu yn ei phriod le.\r\n","state":"closed","signature_count":574,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-02-04T11:38:58.310Z","updated_at":"2026-08-21T11:45:32.998Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-02-09T11:15:26.693Z","closed_at":"2026-08-15T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-02-04T11:46:10.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-02-12T10:59:40.000Z","referred_at":"2026-08-16T23:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"diwylliant","name":"Diwylliant"}],"signatures_by_country":[{"name":"Awstralia","code":"AU","signature_count":4},{"name":"Canada","code":"CA","signature_count":2},{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":435},{"name":"Estonia","code":"EE","signature_count":1},{"name":"Ffrainc","code":"FR","signature_count":1},{"name":"Gwlad Belg","code":"BE","signature_count":1},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":119},{"name":"Sbaen","code":"ES","signature_count":1},{"name":"Unol Daleithiau America","code":"US","signature_count":2},{"name":"Ynys Manaw","code":"IM","signature_count":1},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":7}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":11},{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":38},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":9},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":17},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":6},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":11},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":7},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":24},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":39},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":29},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":168},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":7},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":7},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":12},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":11},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":18}],"signatures_by_region":[]}}}