{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246871.json"},"data":{"type":"petition","id":246871,"attributes":{"action":"Dewch ag uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Gwent yn ôl.","background":"Mae Casnewydd yn ddinas, a hynny ers iddi gael statws dinas yn Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002. Ac eto, yn wahanol i ddinas fodern, cafodd ei huned ddamweiniau ac achosion brys ei symud i Gwmbrân, gydag uned mân anafiadau yn aros yn Ysbyty Brenhinol Gwent, sydd o fewn ffiniau’r ddinas.\r\n\r\nO’r herwydd, mae uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Faenor yn dioddef gan amseroedd aros eithriadol o hir, ac mae'n rhy fach i wasanaethu'r cymunedau amrywiol o Gasnewydd a'r cymoedd tu hwnt. Byddai ailagor uned ddamweiniau ac achosion brys yn ninas Casnewydd yn dod â gwasanaeth mawr ei angen yn ôl.","additional_details":"Mae cleifion sy’n cyrraedd Ysbyty’r Faenor yn wynebu amseroedd aros hir a rhaid i'r rhai sy'n cyrraedd mewn ambiwlans aros yn hwy byth. Mae’r uned ddamweiniau ac achosion brys yn fechan iawn, gyda dim mwy nag 20 o gadeiriau. Mae'n amlwg ar ôl 5 mlynedd nad yw’n ymarferol iddi wasanaethu Casnewydd a'r cymunedau cyfagos oherwydd ei maint.\r\n\r\nCafodd pobl Casnewydd siom aruthrol pan symudwyd yr uned ddamweiniau ac achosion brys o Ysbyty Brenhinol Gwent ar 17 Tachwedd 2020. Nid yw’n ymarferol i i ddinas fawr gael ei phrif ysbyty mewn tref gyfagos. Ar ben hynny, nid yw uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Faenor yn gallu diwallu'r galw o Gasnewydd a thu hwnt yn effeithlon.\r\n\r\nRwyf i, a Chasnewydd, am i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ailagor uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Gwent. Bydd y cam cadarnhaol hwn yn lleddfu’r straen ddifrifol ar uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Faenol a bydd yn lleihau amseroedd aros yn gyson ar draws y Bwrdd Iechyd.","state":"open","signature_count":8,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-02-26T03:38:10.533Z","updated_at":"2026-05-14T23:00:05.352Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-03-09T11:07:44.995Z","closed_at":"2026-10-17T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-03-02T08:33:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Paul Haugh","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":8}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000012","name":"Ceredigion","signature_count":1},{"id":"W09000034","name":"Mynwy","signature_count":1},{"id":"W09000036","name":"Islwyn","signature_count":1},{"id":"W09000039","name":"Gorllewin Casnewydd","signature_count":2},{"id":"W09000040","name":"Dwyrain Casnewydd","signature_count":2}],"signatures_by_region":[{"id":"W10000006","name":"Canolbarth a Gorllewin Cymru","signature_count":1},{"id":"W10000008","name":"Dwyrain De Cymru","signature_count":6}]}}}