{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246882.json"},"data":{"type":"petition","id":246882,"attributes":{"action":"Diwygio Canllawiau Ffrwythlondeb y GIG yng Nghymru","background":"Ar hyn o bryd, er mwyn i fenywod gael eu hatgyfeirio at wasanaethau ffrwythlondeb yng Nghymru, mae angen iddynt gael Mynegai Màs y Corff (BMI) rhwng 19 a 30 (o dan 35 mewn rhai ardaloedd). Deëllir bod gordewdra’n gallu achosi problemau yn ystod beichiogrwydd, ond nid yw'r canllawiau presennol yn ystyried amgylchiadau personol pobl. Bydd angen mwy o help ar rai menywod nag eraill oherwydd problemau fel syndrom ofarïau polysystig (PCOS), sy'n achosi ymwrthedd i inswlin a chynnydd mewn testosteron. I bob pwrpas, mae'r system bresennol yn dweud wrth fenyw: os ydych chi'n dew, nid ydych chi'n haeddu bod yn fam.","additional_details":"Mae BMI wedi cael ei ddefnyddio fel yr unig fesuriad wrth benderfynu a fydd pobl yn cael mynediad at wasanaethau’r GIG. Fodd bynnag, nid yw canllawiau mor haearnaidd yn caniatáu i amgylchiadau personol ac unigol gael eu hystyried. Yn hytrach na helpu menywod i lywio'r amgylchiadau personol hyn, maent yn eu hanfod yn cyfleu stigma ynghylch gorbwysau a’r gred nad oes gan fenywod dros BMI penodol hawl i gael gofal.\r\n\r\nMae ymchwil sy'n awgrymu bod BMI yn fesuriad hen ffasiwn ac mae cwestiynau ynghylch pam mae'r GIG yn dibynnu arno o hyd yn achos menywod sydd dros eu pwysau ond sydd fel arall yn iach. Dyma rywbeth y dylid edrych arno, yn enwedig o ystyried bod clinigau ffrwythlondeb preifat yn canolbwyntio ar oedran, yn hytrach na phwysau. Mae’r sefyllfa’n awgrymu bod anghysondeb rhwng darparwyr gofal iechyd, a bod yr hawl i gael cymorth gyda ffrwythlondeb yn troi’n loteri cod post.\r\n","state":"open","signature_count":87,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-03-06T21:45:20.835Z","updated_at":"2026-09-09T21:14:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-03-10T13:54:55.207Z","closed_at":"2026-10-18T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-03-06T21:53:30.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Laura McDonagh","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":60},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":21},{"name":"Tanzania","code":"TZ","signature_count":2},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":4}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":1},{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":2},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":10},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":4},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":27},{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":2},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":1},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":3},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":3},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":2},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}