{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246914.json"},"data":{"type":"petition","id":246914,"attributes":{"action":"Mae angen mwy o gyllid ar ofal a chymorth ym maes iechyd atgenhedlol a gynaecolegol menywod","background":"Mae angen sicrhau bod mwy o gymorth, cefnogaeth a thriniaethau ar gael i fenywod sy'n dioddef o broblemau iechyd gynaecolegol ac atgenhedlol. Yn hytrach na chael gwybodaeth sydd yn hen neu gael ein hanwybyddu, mae angen mwy o gymorth arnom i'n helpu i reoli a thrin ein symptomau, boed hynny ar gyfer gofal wedi camesgoriad, cyflyrau fel syndrom ofarïau polycystig, endometriosis, menopos neu unrhyw gyflwr arall.","additional_details":"Mae angen sicrhau bod mwy o gymorth, cefnogaeth a thriniaethau ar gael i fenywod sy'n dioddef o broblemau iechyd gynaecolegol ac atgenhedlol. Yn hytrach na chael gwybodaeth sydd yn hen neu gael ein hanwybyddu, mae angen mwy o gymorth arnom i'n helpu i reoli a thrin ein symptomau, boed hynny ar gyfer gofal wedi camesgoriad, cyflyrau fel syndrom ofarïau polycystig, endometriosis, menopos neu unrhyw gyflwr arall.\r\nMae angen mwy o gyllid ar gyfer gofal a chymorth i fenywod sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd atgenhedlol a gynaecolegol. Rydym yn pryderu bod gwybodaeth anghywir, hen a diwerth yn cael ei rhoi, ac nad yw'n helpu i reoli'r symptomau. Mae llawer o fenywod yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu neu eu diystyru pan fyddant yn codi’r materion hyn.\r\n\r\nRydym am roi’r gorau i weld menywod yn cael cyfarwyddiadau i ‘golli pwysau’ neu’n cael cynnig dulliau atal cenhedlu fel triniaeth. Mae angen trin ymwrthedd i inswlin o ddifrif a dylai mwy o opsiynau fod ar gael o ran triniaeth. Mae angen cydnabod symptomau poenus, mislif afreolaidd neu absennol, blinder ac anghydbwysedd hormonaidd o ddifrif a dylai mwy o driniaeth fod ar gael. Mae angen gwell gofal ar gyfer pob cyflwr gan gynnwys y menopos, endometriosis a syndrom ofarïau polycystig (a elwir hefyd yn PMOS). Ni ddylai menywod orfod mynnu bod eu lleisiau yn cael eu clywed ac ni ddylid eu hanwybyddu a rhoi cyngor diog iddynt. Credwn fod angen newidiadau sylweddol.\r\n","state":"open","signature_count":28,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-05-15T15:35:06.612Z","updated_at":"2026-05-21T18:55:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-05-20T15:28:23.541Z","closed_at":"2026-11-20T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-05-15T16:06:10.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Darci Agnew","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":28}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000056","name":"Clwyd","signature_count":1},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":15},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":12}],"signatures_by_region":[]}}}