{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246924.json"},"data":{"type":"petition","id":246924,"attributes":{"action":"Gosod gofyniad ar gynghorau Cymru i flaenoriaethu ansawdd, parhad a diogelwch wrth gomisiynu gofal cymdeithasol","background":"Rydym am weld gofyniad ar gynghorau Cymru i gymryd y camau a ganlyn:\r\n* Cyhoeddi sut mae contractau gofal yn cael eu dyfarnu.\r\n* Gwahardd y broses o gomisiynu ar sail y gost isaf yn unig.\r\n* Gwella’r oruchwyliaeth o ddarparwyr gofal cartref.\r\n* Ymchwilio i fethiannau mewn arferion comisiynu.\r\n* Cyflwyno lefelau staffio gofynnol a hyfforddiant estynedig ar gyfer staff.\r\n","additional_details":"Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau gofal hanfodol ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl drwy gontractau gyda darparwyr preifat a darparwyr trydydd sector. Mae pryderon wedi’u mynegi ynglŷn â’r ffaith y gall arferion comisiynu flaenoriaethu ymdrechion i leihau costau uwchlaw parhad ac ansawdd gofal.\r\nGall hyn gyfrannu at ruthro wrth gynnal ymweliadau, lefelau trosiant uchel ymhlith y staff, cymorth anghyson, a phwysau ar weithwyr gofal drwy arferion amserlennu afrealistig a chyflogau isel. Mae'r materion hyn yn effeithio ar bobl sy’n agored i niwed, gofalwyr di-dâl, a staff rheng flaen ledled Cymru.\r\nCafwyd hanesion gan deuluoedd a chymunedau lleol sydd wedi tynnu sylw at bwysau parhaus o fewn y sector gofal cymdeithasol. Mae angen mwy o dryloywder a safonau cenedlaethol cryfach er mwyn sicrhau bod cynghorau'n comisiynu gofal mewn modd diogel a theg, ac ar sail ansawdd y canlyniadau yn hytrach na chost yn unig.\r\nCredwn y dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r broses a ddilynir gan awdurdodau lleol wrth gomisiynu gwasanaethau gofal, a chredwn y dylai gyflwyno safonau cenedlaethol cliriach ar gyfer comisiynu moesegol a chynaliadwy.\r\n","state":"open","signature_count":92,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-05-20T15:13:13.738Z","updated_at":"2026-05-21T21:20:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-05-21T09:45:38.977Z","closed_at":"2026-08-31T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-05-20T15:16:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Lilly Chelsea lloyd","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"},{"code":"llywodraeth-leol","name":"Llywodraeth Leol"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":91},{"name":"Yr Alban","code":"GB-SCT","signature_count":1}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":64},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":1},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":2},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":20},{"id":"W09000062","name":"Sir Fynwy Torfaen","signature_count":3}],"signatures_by_region":[]}}}