{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246925.json"},"data":{"type":"petition","id":246925,"attributes":{"action":"Dod â’r Cyfyngiad Dwy Flynedd ar Feddyginiaethau Colli Pwysau Chwistrelladwy i Ben yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu polisi’r GIG ynghylch meddyginiaethau colli pwysau chwistrelladwy megis Mounjaro a Wegovy er mwyn caniatáu presgripsiynau hirdymor lle bo angen clinigol, yn hytrach na chyfyngu triniaeth i ddwy flynedd.\r\n\r\nMae gordewdra yn gyflwr iechyd cronig, ac mae llawer o gleifion mewn perygl o ennill pwysau’n ôl a gweld dirywiad yn eu hiechyd corfforol a meddyliol pan gaiff triniaeth ei hatal oherwydd terfyn amser penodedig.\r\n","additional_details":"I lawer o bobl, yr unig ddewis wedyn yw talu’n breifat am y meddyginiaethau hyn, gyda chostau’n cyrraedd hyd at £300 y mis. Mae hyn yn rhoi pwysau ariannol sylweddol ar bobl, ac yn cyfrannu at dlodi ac iechyd meddwl gwael ymhlith y rhai sy’n dibynnu ar y driniaeth.\r\n\r\nDylai penderfyniadau ynghylch parhau â thriniaeth gael eu gwneud ar sail angen clinigol a budd meddygol, nid ar sail cyfyngiadau amser mympwyol.\r\n\r\nRydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu system fwy hyblyg, deg a thosturiol ar gyfer trin gordewdra yn y tymor hir.\r\n","state":"open","signature_count":6,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-05-20T18:46:11.922Z","updated_at":"2026-05-21T14:28:25.998Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-05-21T14:28:25.992Z","closed_at":"2026-11-21T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-05-20T19:23:30.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Aled Robert Thomas","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":6}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":4},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}