{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246930.json"},"data":{"type":"petition","id":246930,"attributes":{"action":"Cyflwyno'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer Etholiadau'r Senedd yn y dyfodol","background":"Yn Etholiad y Senedd yn 2026, cyflwynwyd system Bleidleisio Rhestrau Caeedig i ethol 96 o Aelodau i’r Senedd newydd ei hehangu. Fodd bynnag, dangosodd y system hon rai gwendidau sylweddol, gan mai dim ond pleidleisio dros bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol y gallai pleidleiswyr ei wneud, tra bod y penderfyniad ynghylch pwy a etholwyd i'r Senedd yn y pen draw yn nwylo'r pleidiau eu hunain.\r\n\r\nFelly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau'r gwaith o gyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer Etholiadau'r Senedd yn y dyfodol.","additional_details":"Mae cynrychiolaeth gyfrannol mewn etholiadau cenedlaethol yn bwysig, ac mae'n sicr yn ganmoladwy mai dyma oedd y nod gyda diwygiadau'r Senedd o'r dechrau.\r\nEr bod y system Rhestrau Caeedig a weithredwyd wedi cyflawni'r nod hwn, fe gyflwynodd broblemau hefyd, megis gwanhau'r cysylltiad rhwng pleidleiswyr a'u cynrychiolwyr a'r canfyddiad bod ymgeiswyr yn cael eu gwobrwyo am deyrngarwch i blaid yn hytrach na'u gallu i gynrychioli eu hetholwyr.\r\nByddai’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, ar y llaw arall, hefyd wedi cyflawni'r nodau o wneud etholiadau'r Senedd yn fwy cyfrannol heb gyflwyno'r un problemau ag a welwyd o gyflwyno Rhestrau Caeedig, gyda'r fantais ychwanegol y gall pleidleiswyr restru cymaint o ymgeiswyr ag y dymunant, sy'n golygu na fyddai'n rhaid iddynt bleidleisio ar hyd llinellau plaid.\r\nMae'r system eisoes yn cael ei defnyddio'n llwyddiannus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae'n boblogaidd ymhlith yr etholwyr, fel y dangosir gan yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygiadau'r Senedd, er mwyn sicrhau cymesuredd ac atebolrwydd.\r\n","state":"open","signature_count":5,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-05-22T12:34:42.385Z","updated_at":"2026-05-27T11:47:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-05-27T11:12:55.965Z","closed_at":"2026-11-27T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-05-22T12:38:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Emyr Owen","rejection":null,"debate":null,"topics":[],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":5}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":1},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":1},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":1},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":2}],"signatures_by_region":[]}}}