{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246940.json"},"data":{"type":"petition","id":246940,"attributes":{"action":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a mynd i’r afael â gwahaniaethu","background":"Elizabeth Doran ydw i a fi yw Llysgennad Teithwyr/Sipsiwn o GT.WALES. Oherwydd fy mod yn dod o’r gymuned, rwy’n gwybod yn dda fod llawer o deuluoedd yn cael trafferth dod o hyd i leoedd addas i fyw a stopio wrth deithio. Gall diffyg safleoedd awdurdodedig greu anawsterau nid yn unig i’n cymuned ni ond i’r gymuned sefydlog ac awdurdodau lleol. Byddai mwy o safleoedd yn helpu i wella sefydlogrwydd, gwella mynediad at addysg a gofal iechyd, a chefnogi traddodiadau diwylliannol Sipsiwn a Theithwyr.","additional_details":"Mae teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru yn wynebu problemau difrifol. Mae llawer yn prynu eu tir eu hunain ond yn cael trafferth byw arno. Ar yr un pryd nid oes digon o safleoedd awdurdodedig Teithwyr ar gael.\r\n\r\nMae hyn yn golygu nad oes gan lawer o deuluoedd le cyfreithlon i fynd, gan eu gorfodi i stopio ar ymyl y ffordd, mewn meysydd parcio ac mewn caeau. Mae’n achosi anhawster i deithwyr a chymunedau lleol ond y gwir broblem yw diffyg opsiynau cyfreithlon.\r\n\r\nNi ddylid cosbi teuluoedd am nad oes ganddynt unman arall i fyw. Mae’r prinder safleoedd hefyd yn ennyn gwahaniaethu, hiliaeth a sylwadau negyddol ar y cyfryngau cymdeithasol ac wyneb yn wyneb tuag at y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.\r\n\r\nGofynnwn i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy o safleoedd awdurdodedig; gwella mynediad at ganiatâd cynllunio i deuluoedd sy’n berchen ar dir; a chymryd camau cryfach yn erbyn rhagfarn a gwahaniaethu. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi gwybod am gynnydd gwirioneddol o ran y camau a gymerwyd mewn ymateb i ymchwiliad dilynol y Senedd i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr:\r\nhttps://senedd.wales/media/smkjrwax/cr-ld17012-w.pdf\r\n\r\nByddai creu mwy o leoedd cyfreithlon i fyw o fudd i deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr a’r gymuned sefydlog ehangach.\r\n\r\nOs gwelwch yn dda ystyriwch weithio gyda ni nid yn ein herbyn. Diolch.\r\n\r\nGT.Wales: https://gtwales.org.uk/\r\n","state":"open","signature_count":3,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-01T11:17:32.147Z","updated_at":"2026-06-04T11:31:07.536Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-04T11:31:07.525Z","closed_at":"2026-12-04T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-01T19:39:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Elizabeth","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cydraddoldeb","name":"Cydraddoldeb a Hawliau Dynol"},{"code":"cymunedau-a-tai","name":"Cymunedau a Tai"},{"code":"llywodraeth-leol","name":"Llywodraeth Leol"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":3}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":3}],"signatures_by_region":[]}}}