{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246948.json"},"data":{"type":"petition","id":246948,"attributes":{"action":"Cyfleusterau newid gwell i bobl sy'n byw gyda stoma","background":"Jo-Anne Gravell ydw i, ac ym mis Hydref 2019 fe gefais ddiagnosis o ganser y coluddyn cam 4. O ganlyniad i'm triniaeth a'r llawdriniaeth a achubodd fy mywyd, rwyf bellach yn byw gyda stoma parhaol. Rwyf yn oroeswr balch, ond mae byw bob dydd gyda stoma yng Nghymru yn golygu wynebu rhwystrau sylweddol a diangen, a hynny oherwydd y diffyg difrifol o gyfleusterau newid cyhoeddus digonol.\r\n\r\n","additional_details":"Mae toiledau cyhoeddus safonol ledled Cymru yn hollol anaddas ar gyfer gofal stoma.\r\nMae angen i doiledau gael silffoedd sydd â digon o le i osod cyflenwadau meddygol glân allan yn hylan.\r\nBachau ar y drysau i gadw dillad a chyflenwadau ffres oddi ar loriau gwlyb.\r\nDrychau yn y lle iawn ar gyfer gweld beth sy’n digwydd yn ystod y broses newid.\r\nBin gwaredu hygyrch, cynnil yn y ciwbicl ei hun.\r\nHeb y pethau sylfaenol hyn, mae unigolion sy'n byw gyda stomâu yn aml yn gorfod newid eu bagiau mewn amodau anhylan—weithiau ar lawr toiled—neu wynebu gorbryder ac unigedd difrifol, yn gaeth yn eu cartrefi oherwydd yr ofn o beidio â chael rhywle glân i fynd.Rydym yn haeddu urddas, preifatrwydd a glendid. Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu canllawiau gorfodol a fyddai’n sicrhau bod toiledau cyhoeddus a hygyrch ledled Cymru yn cael eu huwchraddio i fodloni'r gofynion safonol ar gyfer gofal stoma. Drwy wneud yr addasiadau bach ond hanfodol hyn, gall Cymru sicrhau bod goroeswyr canser a phob un sy'n byw gyda stoma yn gallu byw bywyd cyhoeddus llawn heb danseilio eu hiechyd a'u hunan-barch.","state":"open","signature_count":61,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-09T18:16:09.828Z","updated_at":"2026-06-12T08:19:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-11T14:25:20.458Z","closed_at":"2026-12-11T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-09T18:22:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Sara Jo-Anne Gravell","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"},{"code":"llywodraeth-leol","name":"Llywodraeth Leol"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":61}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":1},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":2},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":1},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":1},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":56}],"signatures_by_region":[]}}}