{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246950.json"},"data":{"type":"petition","id":246950,"attributes":{"action":"Dylid caniatáu i gwmnïau gofal plant gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, yn debyg i drefniant Ofsted, er mwyn sicrhau clybiau gwyliau rhatach.","background":"Ar hyn o bryd, mae rhieni yng Nghymru yn wynebu costau uwch ar gyfer clybiau gwyliau na rhieni yn Lloegr.\r\nByddai modd gwella’r sefyllfa hon pe bai mwy o gwmnïau'n caniatáu i bobl wneud taliadau drwy’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth (TFC).\r\nYng Nghymru ar hyn o bryd, os yw cwmnïau am ganiatáu i bobl wneud taliadau drwy TFC (cynllun gan y Llywodraeth sydd â’r nod o helpu rhieni gyda chostau gofal plant), rhaid i bob darparwr gofal plant fod wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae hyn yn cynnwys unrhyw glybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau.\r\nYn Lloegr, mae Ofsted yn cynnig trefniant cofrestru gwirfoddol i unrhyw gwmni sy'n gweithio gyda phlant ac sy’n cytuno i lynu wrth ei ganllawiau gofal plant.\r\n","additional_details":"Mae costau clybiau gwyliau yn ddrytach yng Nghymru, ac mae cofrestru gydag AGC yn orfodol er mwyn cael taliadau drwy TFC.\r\nMae cost treulio wythnos arferol (5 diwrnod) mewn clwb gwyliau yng Nghymru yn amrywio rhwng £175 a £325. Pe bai rhieni’n gallu talu am y gwasanaeth hwn drwy TFC, byddai modd iddynt arbed rhwng £35 a £65 yr wythnos.\r\nNid oes modd i rieni gymryd chwe wythnos o wyliau bob amser. Mae cyflogwyr fel arfer yn darparu pedair wythnos o wyliau â thâl y flwyddyn, ac nid yw’r ddarpariaeth hon yn ddigon ar gyfer y 13 wythnos o wyliau ysgol a geir bob blwyddyn, hyd yn oed os bydd dau riant yn cymryd eu gwyliau ar adegau gwahanol. Felly, mae’r clwb gwyliau yn adnodd angenrheidiol i'r rhan fwyaf o rieni sy'n gweithio.\r\nYn Lloegr ar hyn o bryd, mae Ofsted yn cynnig trefniant cofrestru gwirfoddol i unrhyw gwmni sy'n gweithio gyda phlant ac sy’n cytuno i lynu wrth ei ganllawiau gofal plant. Yng Nghymru, fodd bynnag, dim ond un opsiwn cofrestru sydd gan AGC ar gyfer darparwyr gofal y tu allan i'r ysgol, sef gwasanaethau sy'n seiliedig ar chwarae a ddarperir mewn lleoliadau parhaol (lle mae’n ofynnol i staff feddu ar gymhwyster gwaith chwarae yn unig, heb unrhyw hyblygrwydd ar gyfer cymwysterau gofal plant eraill).\r\n","state":"open","signature_count":15,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-10T13:18:32.185Z","updated_at":"2026-06-17T16:28:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-17T10:48:56.383Z","closed_at":"2026-12-17T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-10T13:27:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Katherine Jones","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":13},{"name":"Lloegr","code":"GB-ENG","signature_count":2}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":2},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":11}],"signatures_by_region":[]}}}