{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246952.json"},"data":{"type":"petition","id":246952,"attributes":{"action":"Gwahardd pleidiau gwleidyddol rhag defnyddio delweddau a gynhyrchir gan AI.","background":"Gyda thechnoleg delweddau a gynhyrchir gan AI yn gwella’n gyflym, mae'n gynyddol anodd gwahaniaethu rhwng y gwir a’r gau. Ni ellir dweud mwyach mai “gweld yw credu”. Yn hytrach, mae’n dod yn fwyfwy amlwg mai i’r gwrthwyneb y bydd hi.\r\nEr mwyn annog hyder y cyhoedd a sicrhau bod negeseuon gwleidyddol yn deg, yn gywir ac yn fuddiol o ran gwybodaeth, mae angen gwahardd pleidiau gwleidyddol a'u Haelodau etholedig rhag defnyddio delweddau a gynhyrchir gan AI, a hynny ar unwaith.\r\n","additional_details":"Mae'r potensial ar gyfer lledaenu camwybodaeth drwy ddelweddau a gynhyrchir gan AI yn bryder amlwg. Ar ben hynny, ni wyddom i ba raddau y mae delweddau hyper-realistig a gynhyrchir gan AI yn dylanwadu ar y cyhoedd.\r\nFelly, awgrymaf ein bod yn cyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio’r dechnoleg hon at ddibenion gwleidyddol, a hynny ar unwaith, hyd nes ein bod yn deall effeithiau delweddau o’r fath ar etholwyr yn well.\r\nYn ogystal, gallai’r posibilrwydd o gamarwain y cyhoedd, boed yn fwriadol neu drwy esgeulustod, ddwyn anfri ar rôl Aelod o’r Senedd. Byddwn felly’n awgrymu y dylai achosion lluosog o dorri’r rheolau hyn arwain at ganlyniadau go iawn.\r\nHoffwn weld yr Aelodau’n cael y cyfle i drafod y mater hwn, gyda phleidlais yn cael ei chynnal ynghylch cyflwyno gwaharddiad cychwynnol, a hynny wrth i effaith delweddau a gynhyrchir gan AI ar etholwyr gael ei deall yn well.\r\nDylai'r Senedd fod yn gosod esiampl o ran ymddygiad, gwedduster a defnyddio technolegau newydd yn gyfrifol. Nid oes lle mewn gwleidyddiaeth ar gyfer delweddau sy'n ystumio'r gwir, neu sy'n gelwyddau llwyr.\r\n","state":"open","signature_count":3,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-10T19:33:04.949Z","updated_at":"2026-06-15T13:35:49.621Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-15T13:35:49.615Z","closed_at":"2026-12-15T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-10T19:45:10.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Paul Yandle","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cydraddoldeb","name":"Cydraddoldeb a Hawliau Dynol"},{"code":"y-cyfryngau","name":"Y Cyfryngau a Chyfathrebu"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":3}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":3}],"signatures_by_region":[]}}}