{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246956.json"},"data":{"type":"petition","id":246956,"attributes":{"action":"Sicrhau bod gan blant ag alergeddau bwyd fynediad cyfartal i gymorth prydau ysgol am ddim","background":"Mae Llywodraeth Cymru yn darparu prydau ysgol am ddim i blant ysgolion cynradd. Fodd bynnag, ni all rhai plant ag alergeddau bwyd fwyta'r prydau a ddarperir yn ddiogel.\r\nRhaid i deuluoedd yn y sefyllfa hon ddarparu pecynnau bwyd ar eu traul eu hunain. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ddarparu talebau bwyd neu gymorth cyfatebol pan na all plentyn gael prydau ysgol am ddim yn ddiogel oherwydd bod ganddo anghenion dietegol â diagnosis meddygol.\r\n","additional_details":"Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru yn cefnogi teuluoedd gyda’u costau byw. Fodd bynnag, ni all rhai plant gael prydau ysgol yn ddiogel oherwydd alergeddau bwyd neu anghenion deietegol eraill y mae gofyn iddynt eu dilyn am resymau meddygol.\r\nMae gan fy mab alergedd i datws. Mae cynhwysion tatws yn cael eu defnyddio mewn llawer o fwydydd, ac mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd i ysgolion a darparwyr arlwyo roi sicrwydd bod prydau bwyd yn ddiogel iddo. O ganlyniad, nid oes ganddo’r un hawl â phlant eraill i gael prydau ysgol am ddim.\r\nRhaid i deuluoedd yn y sefyllfa hon ddarparu pecynnau bwyd ar eu traul eu hunain, er gwaethaf y ffaith eu bod yn gymwys i gael yr un cymorth â disgyblion eraill. Cyflyrau meddygol yw alergeddau bwyd, nid dewisiadau ynghylch ffordd o fyw.\r\nGofynnwn i Lywodraeth Cymru adolygu'r mater hwn, casglu data ar blant yr effeithir arnynt, a darparu talebau bwyd neu gymorth ariannol cyfatebol lle na ellir darparu prydau ysgol addas yn ddiogel.\r\n","state":"open","signature_count":12,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-12T11:59:11.600Z","updated_at":"2026-06-16T08:17:40.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-15T13:21:20.983Z","closed_at":"2026-12-15T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-12T12:07:30.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Jessica Davies","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":12}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":1},{"id":"W09000053","name":"Caerdydd Penarth","signature_count":4},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":1},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":3},{"id":"W09000063","name":"Sir Gaerfyrddin","signature_count":3}],"signatures_by_region":[]}}}