{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246960.json"},"data":{"type":"petition","id":246960,"attributes":{"action":"Lleihau llygredd aer drwy gyfyngu ar danau gwersyll/pyllau tân ar safleoedd gwersylla.","background":"Wrth wersylla yng Ngogledd Cymru yn ddiweddar, sylwais ar ansawdd ofnadwy yr aer oherwydd pyllau tân.\r\nWrth yrru i Barc Cenedlaethol Eryri, roedd yn amlwg ble roedd y safleoedd gwersylla oherwydd y mwrllwch o’r holl danau oedd yn aros yn yr awyr.\r\nMae Parc Cenedlaethol Eryri hyd yn oed yn nodi y dylai ymwelwyr gyfyngu ar y defnydd o danau gwersyll, felly pam nad oes cyfyngiadau ar safleoedd gwersylla, lle rydych chi mewn man mwy cyfyng? At hynny, gwyddys bod pebyll yn fflamadwy ac mae llawer o bobl yn defnyddio nwy LPG ar gyfer coginio neu gyfarpar arall mewn carafanau.","additional_details":"Mae hyn yn rhywbeth y dylid ei reoleiddio gan fod ymdrech fawr yng Nghymru i leihau llygredd aer o allyriadau cerbydau modur a llosgwyr coed mewn cartrefi preswyl ond mae llosgi tanau bron yn cael ei annog wrth wersylla.\r\nNi allai fy mhartner, sy’n dioddef o asthma, aros y tu allan oherwydd y mwg oedd yn chwythu o gyfeiriad pobl eraill ar y safle a fyddai’n cynnau’r tân ac yna’n mynd i’w pabell neu eu carafán gan adael y tân oherwydd bod gormod o fwg.\r\nNid wyf am wahardd pyllau tân na thanau gwersyll yn gyfan gwbl gan fod llawer o bobl yn cysylltu hyn â’r profiad gwersylla ond dylid cyflwyno terfyn i ganiatáu i eraill nad ydynt am foddi yn y mwrllwch fwynhau’r awyr iach a chyfyngu ar faint o lygredd aer sydd oherwydd pyllau tân/tanau gwersyll heb eu rheoli.\r\nRwy’n awgrymu, efallai, fod safleoedd gwersylla yn rheoli tân gwersyll/pwll tân lle gellir dewis y tanwydd a hyd yr amser llosgi er mwyn lleihau’r mwg sy’n cael ei ryddhau.\r\nByddai hyn yn ychwanegiad gwych at Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.\r\n","state":"open","signature_count":5,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-14T21:16:50.562Z","updated_at":"2026-06-16T17:11:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-16T15:00:06.140Z","closed_at":"2026-12-16T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-14T21:46:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Holly Willmott","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":5}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":4},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}