{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246962.json"},"data":{"type":"petition","id":246962,"attributes":{"action":"Gwneud dosbarthiadau o 20 o fyfyrwyr yn gyfraith ar gyfer gwersi ymarferol.","background":"Mae maint dosbarthiadau mewn pynciau ymarferol fel Dylunio a Thechnoleg, Peirianneg, Adeiladu, Lletygarwch, Gwyddoniaeth, a disgyblaethau eraill sy'n seiliedig ar weithdai yn parhau i dyfu, er y ffaith bod canllawiau proffesiynol clir yn cynghori yn erbyn y duedd hon. Mae gwledydd datganoledig eraill eisoes wedi deddfu yn hyn o beth, a chredwn y dylai Cymru ddilyn eu hesiampl.","additional_details":"Mae canllawiau undebau presennol yn nodi na ddylai fod mwy nag 20 o ddisgyblion mewn dosbarthiadau pynciau ymarferol. Nid mympwy yw'r argymhelliad hwn; fe'i cefnogir gan yr Adran Addysg, y Gymdeithas Dylunio a Thechnoleg, a BS 4163:2021 gan y Sefydliad Safonau Prydeinig, sydd i gyd yn arddel 20 disgybl fel y meincnod diogel ar gyfer amgylchedd addysgu ymarferol.\r\nRhaid inni hefyd ystyried y goblygiadau ehangach y tu hwnt i ddiogelwch ac addysgeg:\r\nY llwyth gwaith cynyddol a roddir ar ysgwyddau athrawon o ran cynllunio a datblygu adnoddau er mwyn rheoli'r dosbarthiadau rhy fawr hyn.\r\nY straen cynyddol a'r effaith ar lesiant athrawon o orfod rheoli dosbarthiadau mawr a cheisio eu cadw’n ddiogel yn ystod tasgau ymarferol, ynghyd â’r ofn y bydd damwain y byddant yn cael eu dal yn gyfrifol amdani.\r\nYr argyfwng recriwtio mewn pynciau ymarferol—maes sydd eisoes yn wynebu prinder. Mae'r dosbarthiadau mawr hyn a'r sefyllfaoedd peryglus hyn yn ychwanegu at resymau athrawon gwersi ymarferol dros adael y proffesiwn.\r\n","state":"open","signature_count":31,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-15T15:07:08.664Z","updated_at":"2026-06-18T11:04:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-17T13:56:06.621Z","closed_at":"2026-12-17T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-15T18:13:00.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Jason Banks","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":31}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000049","name":"Bangor Conwy Môn","signature_count":1},{"id":"W09000050","name":"Blaenau Gwent Caerffili Rhymni","signature_count":6},{"id":"W09000052","name":"Caerdydd Ffynnon Taf","signature_count":2},{"id":"W09000054","name":"Casnewydd Islwyn","signature_count":4},{"id":"W09000055","name":"Ceredigion Penfro","signature_count":4},{"id":"W09000057","name":"Fflint Wrecsam","signature_count":1},{"id":"W09000058","name":"Gwynedd Maldwyn","signature_count":3},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":1},{"id":"W09000061","name":"Pontypridd Cynon Merthyr","signature_count":9}],"signatures_by_region":[]}}}